Monitro ac adolygu cyfleusterau cyllid a chredyd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i adolygu ac ailarfarnu cyfleusterau cyllid neu gredyd awdurdodedig, ynghyd â sut rydych chi'n rheoli sefyllfaoedd lle mae eich cwsmer wedi manteisio ar gyfleusterau heb eu hawdurdodi. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith. Mae hyn yn ymwneud ag amserlenni a systemau adolygu rheolaidd neu gytunedig, yn hytrach nag ymateb adweithiol i sefyllfa lle mae ôl-ddyledion wedi digwydd. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos sefyllfaoedd sy'n ymwneud â chyfleusterau cyllid neu gredyd ar gyfer busnes, lle mae ffactorau allanol fel yr amgylchedd busnes, yn ogystal â'u gweithredoedd eu hunain, yn effeithio ar allu'r cwsmer i gadw at yr ad-daliadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi cyfleusterau cyllid neu gredyd y mae'n briodol eu hadolygu, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Casglu'r holl wybodaeth angenrheidiol i gynnal adolygiadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Dadansoddi'r gweithgaredd ar gyfrifon gan nodi unrhyw dueddiadau a phatrymau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymchwilio i unrhyw ddangosyddion tueddiadau neu amrywiadau negyddol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi amrywiadau y mae angen gweithredu yn eu cylch, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi achosion amrywiadau mewn cyfrifon yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cwblhau ailwerthusiad o unrhyw sicrwydd a ddelir yn erbyn cyfleuster cyllid neu gredyd lle bo hynny'n briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ceisio camau gan gwsmeriaid i ddatrys unrhyw broblemau gyda'u cyfrifon, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfeirio materion y tu allan i'ch awdurdod eich hun at yr awdurdod priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi risgiau posibl yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y cyfleusterau cyllid neu gredyd a gynigir gan eich sefydliad, a'r telerau a'r amodau sy'n berthnasol iddyn nhw
- Deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol sy'n effeithio ar eich gwaith
- Polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer monitro ac adolygu cyfrifon
- Ffactorau allanol a allai effeithio ar allu cwsmeriaid i gadw at y telerau a'r amodau y cytunwyd arnynt
- Terfynau eich awdurdod eich hun wrth fonitro ac adolygu cyfleusterau cyllid neu gredyd, ac at bwy y dylech chi gyfeirio unrhyw gyfrifon sydd y tu allan i'ch awdurdod
- Sut mae adnabod arwyddion perygl o ran dyledion posibl a methiant i gadw at daliadau cytunedig
- Mathau, achosion ac arwyddocâd amrywiadau a thueddiadau mewn cyfrifon
- Sut mae dadansoddi gwybodaeth am gyfrifon, gan gynnwys arwyddion sy'n rhybuddio am ddyledion posibl
- Sut mae ymchwilio i amrywiadau neu dueddiadau negyddol, a sylweddoli pan fydd angen cymryd camau pellach
- Strategaethau ar gyfer delio gyda phroblemau oddi mewn i gyfrifon
- Goblygiadau cau cyfrifon
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn adnabod ac yn delio gyda newid mewn amgylchiadau yn brydlon
- Rydych yn arddangos uniondeb, tegwch a chysondeb yn y penderfyniadau a wnewch