Symud ymlaen gyda cheisiadau am gyfleusterau cyllid a chredyd busnes a'u gwneud yn derfynol

URN: FSPFC05
Sectorau Busnes (Suites): Cyllid a Chredyd
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chadarnhau telerau ac amodau cyfleusterau cyllid neu gredyd, sicrhau bod eich cwsmer yn cytuno i'r telerau a'r amodau hynny, ac actifadu'r cyfleuster ar gyfer y cwsmer. Gall hyn gynnwys unrhyw fath o gyllid busnes, gan gynnwys gorddrafftiau a chardiau credyd. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith, a gwerthuso gwahanol fathau o adroddiadau mewn perthynas â chwsmeriaid a'u busnes, gan gynnwys sefyllfa ariannol y cwsmer a chryfder eu busnes. Bydd rhaid i chi egluro materion sy'n ymwneud â sicrwydd fydd yn destun pridiant, yn ogystal ag awdurdodi actifadu'r cyfleuster cyllid neu gredyd y cytunwyd arno. Bydd angen i chi sicrhau bod yr holl gyd-drafodaethau'n cael eu cynnal oddi mewn i gylch gorchwyl polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad. Byddwch yn cadw mewn cysylltiad ag amrywiaeth o bobl, gan gynnwys arbenigwyr mewnol ac allanol, cydweithwyr eraill a'r cwsmeriaid eu hunain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gwerthuso'r holl wybodaeth berthnasol neu argymhellion cyn dod i benderfyniadau ynghylch cyfleusterau cyllid neu gredyd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Cymeradwyo cyfleusterau oddi mewn i'ch terfynau cyfrifoldeb eich hun a chanllawiau eich sefydliad ar gyfer cyfleusterau cyllid neu gredyd
  3. Hysbysu cwsmeriaid ynghylch penderfyniadau a sicrhau eu bod yn derbyn y cyfleuster cyllid neu gredyd yn ysgrifenedig, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Cadarnhau dealltwriaeth y cwsmer o bob agwedd berthnasol ar yr ariannu, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Trefnu i baratoi pob contract yn unol â gofynion eich sefydliad
  6. Gofalu bod gennych gadarnhad bod sicrwydd yn ei le, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Trefnu i actifadu'r cyfleuster cyllid neu gredyd a chynghori cwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Cadw cofnodion cywir wedi'u diweddaru yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Nodi risgiau posibl yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  10. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Terfynau eich awdurdod i gymeradwyo ceisiadau am gyfleusterau cyllid busnes neu gredyd
  2. Deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol sy'n effeithio ar eich gwaith
  3. Canllawiau eich sefydliad ar gyfer cynnig cyfleusterau cyllid neu gredyd i gwsmeriaid busnes
  4. Yr adroddiadau perthnasol a'r argymhellion sy'n ymwneud â chais eich cwsmer am gyfleusterau cyllid neu gredyd, gan gynnwys gwerthusiadau o wybodaeth ariannol ac anariannol
  5. Egwyddorion a dulliau o asesu a dehongli adroddiadau perthnasol ac argymhellion
  6. Diben trefnu bod cytundebau'n cael eu derbyn yn ysgrifenedig
  7. Diben trefnu sicrwydd a ffurfiau posibl sicrwydd
  8. Gweithdrefnau sy'n ymwneud â chasglu sicrwydd sy'n ofynnol i dderbyn rhagdaliadau ariannol
  9. Y camau sy'n ofynnol i actifadu cyfleusterau
  10. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
  2. Rydych yn arddangos uniondeb, tegwch a chysondeb yn y penderfyniadau a wnewch
  3. Rydych yn esbonio pethau fel bod eraill yn deall

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPFC05

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Benthyca; rhoi benthyg; penderfyniad benthyca; gostyngiad; cais am forgais; mandad; sicrwydd; hawl; mantolenni; telerau ac amodau; benthyciad; gorddrafft; wedi'i sicrhau; heb ei sicrhau; ôl-ddyledion; credyd