Arfarnu ceisiadau am gyfleusterau cyllid a chredyd busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag arfarnu ceisiadau am gyfleusterau cyllid neu gredyd a gyflwynwyd gan gwsmeriaid busnes. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith a chasglu gwybodaeth ddilys gan gwsmeriaid busnes ynghylch eu busnes a'r cynnig y mae arnynt angen gyfleusterau cyllid neu gredyd ar eu cyfer, ac asesu'r wybodaeth honno cyn gwneud argymhellion i ganiatáu neu wrthod cyfleusterau cyllid neu gredyd. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi werthuso gwybodaeth fel mantolenni neu gynlluniau busnes er mwyn arfarnu dichonoldeb y cynnig ac asesu'r risg cyllid neu gredyd. Mae'n hanfodol eich bod yn gwybod am y canllawiau a ddefnyddir yn eich sefydliad, a'ch bod yn gallu gweithredu oddi mewn iddyn nhw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi, cadarnhau a chofnodi gofynion ariannu neu gredyd y cwsmer, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Casglu'r holl wybodaeth a dogfennaeth angenrheidiol i gynnal asesiad o geisiadau am gyfleusterau cyllid neu gredyd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Asesu amcanion, targedau busnes, cryfderau a gwendidau'r cwsmer, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cwblhau'r holl wiriadau credyd perthnasol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Asesu dichonoldeb busnes y cwsmer gan ddefnyddio gwybodaeth ariannol ac anariannol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Asesu'r angen am sicrwydd, a'i argaeledd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Casglu'r holl brisiadau ac adroddiadau angenrheidiol am asedau eich cwsmer, a gynigiwyd fel sicrwydd, a'u cymharu â phrisiad eich cwsmer, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ceisio eglurhad gan gwsmeriaid pan fydd asesiadau'n datgelu anghysondebau neu elfennau nad ydynt yn cyfateb
- Ystyried yr holl ffactorau asesu wrth wneud penderfyniadau i ganiatáu, neu wrthod, cyfleusterau cyllid neu gredyd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyflwyno argymhellion clir i'r awdurdod priodol pan fydd rhaid atgyfeirio'r cais, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Hysbysu cwsmeriaid ynghylch y penderfyniad i ganiatáu neu wrthod cyfleusterau cyllid neu gredyd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Esbonio'r opsiynau benthyca posibl a'u nodweddion a'u manteision, ynghyd â'r holl wybodaeth hanfodol ynghylch yr opsiynau hyn, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cyflawn o'r camau a gymerwyd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi risgiau posibl yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol sy'n effeithio ar eich gwaith
- Y mathau o gyfleuster cyllid neu gredyd y mae gennych awdurdod i'w hyrwyddo a'u gwerthu a'r amodau sy'n berthnasol iddynt
- Manteision a nodweddion pob cyfleuster yr ydych wedi'ch awdurdodi i'w hyrwyddo a'u gwerthu
- Y bobl y gallwch chi droi atynt am gymorth gydag ymholiadau cwsmeriaid
- Yr wybodaeth a'r dogfennau bydd angen i chi eu casglu i gynnal asesiad o geisiadau am gyfleusterau cyllid neu gredyd
- Canllawiau a gofynion eich sefydliad ynghylch yr angen am sicrwydd, a'r mathau o sicrwydd, sy'n ofynnol wrth gynnig cyfleusterau cyllid neu gredyd i gwsmeriaid
- Y ffactorau asesu y mae angen i chi eu hystyried wrth arfarnu ceisiadau am gyllid neu gredyd, gan gynnwys gwybodaeth anariannol, megis strwythur busnes y cwsmer a thueddiadau a datblygiadau cyfredol a rhai a ragwelir yn y farchnad
- Sut mae gwerthuso a dehongli gwybodaeth ariannol
- Y berthynas rhwng gwybodaeth anariannol ac ariannol
- Canllawiau mewnol eich sefydliad ynghylch dilysu sicrwydd
- Canllawiau eich sefydliad ar gyfer pennu lefel yr ariannu neu'r credyd y gellir ei ganiatáu
- Goblygiadau caniatáu cyfleusterau cyllid neu gredyd i wahanol fathau o endidau cyfreithiol
- Ffactorau risg a gallu i greu elw ar gyfer busnes eich sefydliad
- Sut mae adnabod cyfleoedd i gyd-drafod a chroeswerthu gyda chwsmeriaid
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno
- Rydych yn arddangos uniondeb, tegwch a chysondeb yn y penderfyniadau a wnewch
- Rydych yn dangos dealltwriaeth glir o wahanol gwsmeriaid a'u hanghenion