Symud ymlaen gyda cheisiadau cyllid ar gyfer eiddo personol
URN: FSPFC02
Sectorau Busnes (Suites): Cyllid a Chredyd
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal gwiriadau ar geisiadau cyllid ar gyfer eiddo personol ar ôl derbyn gwybodaeth gan eich cwsmer. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith a naill ai symud y cais ymlaen i'r awdurdod priodol, neu wrthod cais y cwsmer ar ran eich sefydliad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio pwy yw ymgeiswyr a'u statws ar sail gwybodaeth a gafwyd gan eich cwsmeriaid
- Gwirio bod eiddo'n cael ei brisio gan briswyr cymeradwy, fel y cytunwyd gyda chwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwerthuso gwybodaeth i weld a ydyw'n gyflawn ac yn gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi ac ymchwilio i wybodaeth a allai fod yn anghywir neu'n gamarweiniol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi a chofnodi risgiau a allai gael effaith ar ofynion cyllid arfaethedig, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyflwyno'r holl wybodaeth berthnasol i'w chymeradwyo i'r awdurdod priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Prosesu ceisiadau cymeradwy am gyllid ar gyfer eiddo, a sicrhau bod cynigion yn cael eu cyflwyno gan ddilyn y gweithdrefnau cywir
- Hysbysu cwsmeriaid ynghylch unrhyw amodau arbennig a wnaed yng nghyswllt cynigion cyllid ar gyfer eiddo
- Hysbysu ymgeiswyr pan wrthodir cyllid, gan esbonio'n eglur y rhesymau pam, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi cyfleoedd ar gyfer croeswerthu, a hysbysu'r bobl briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi risgiau posibl yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol sy'n effeithio ar eich gwaith
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer prosesu ceisiadau cyllid ar gyfer eiddo personol, gan gynnwys darparu rhagor o arian ymlaen llaw
- Y mathau o gyllid ar gyfer eiddo a gynigir gan eich sefydliad
- Polisi cyllid eich sefydliad mewn perthynas â'ch maes cyfrifoldeb
- Terfynau eich awdurdod eich hun wrth brosesu ceisiadau, ac at bwy y dylech chi gyfeirio unrhyw geisiadau sydd y tu allan i'ch awdurdod i brosesu
- Yr wybodaeth sy'n ofynnol i gwblhau ceisiadau am gyllid ar gyfer eiddo personol
- Pa briswyr sydd wedi'u cymeradwyo gan eich sefydliad
- Sut mae gwirio pwy yw ymgeiswyr a'u statws
- Y mathau o wybodaeth a allai fod yn anghywir neu'n gamarweiniol ar gais, a sut mae ymchwilio iddyn nhw
- Risgiau y mae angen eu nodi yn ôl y math o gais
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
- Rydych yn esbonio pethau fel bod eraill yn deall
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPFC02
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Benthyca; rhoi benthyg; penderfyniad benthyca; gostyngiad; cais am forgais; mandad; sicrwydd; hawl; mantolenni; telerau ac amodau; benthyciad; gorddrafft; wedi'i sicrhau; heb ei sicrhau; ôl-ddyledion; credyd