Arfarnu ac awdurdodi ceisiadau ar gyfer cyfleusterau cyllid a chredyd personol

URN: FSPFC01
Sectorau Busnes (Suites): Cyllid a Chredyd
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag asesu ceisiadau am gyfleusterau cyllid neu gredyd personol a gwneud penderfyniadau i ganiatáu neu wrthod cyfleusterau ar sail yr asesiad hwnnw. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith a chasglu gwybodaeth ddilys gan gwsmeriaid personol a'i hasesu cyn dod i benderfyniad oddi mewn i'ch awdurdod eich hun. Unwaith byddwch chi wedi gwneud eich penderfyniad, bydd yn rhaid i chi ei gyfleu i'r cwsmer, a gwneud y trefniadau gweinyddol angenrheidiol i actifadu'r cyfleuster lle bo hynny'n briodol. Rhaid cyfeirio unrhyw geisiadau sydd y tu allan i'ch awdurdod at y person priodol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi, cadarnhau a chofnodi gofynion cyllid neu gredyd y cwsmer, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Casglu'r holl wybodaeth angenrheidiol i chi gynnal asesiad o geisiadau am gyfleusterau cyllid neu gredyd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Cwblhau'r holl wiriadau credyd perthnasol a chofnodi'r canlyniadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Ceisio eglurhad gan gwsmeriaid pan fydd asesiadau'n datgelu anghysondebau neu elfennau nad ydynt yn cyfateb
  5. Cyfeirio ceisiadau sydd y tu allan i'ch awdurdod at bobl briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Ystyried yr holl ffactorau asesu wrth wneud penderfyniadau i ganiatáu, neu wrthod, cyfleusterau cyllid neu gredyd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Hysbysu cwsmeriaid ynghylch y penderfyniad a'r telerau a'r amodau sy'n berthnasol
  8. Darparu'r holl wybodaeth hanfodol a deunydd ategol ynghylch y cyfleuster i gwsmeriaid, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Gwirio dealltwriaeth eich cwsmer a darparu cyfleoedd i ofyn cwestiynau a cheisio eglurhad
  10. Delio gydag ymholiadau neu gwynion ynghylch penderfyniadau cyllid, yn  unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  11. Sicrhau bod cwsmeriaid yn cytuno'n ysgrifenedig i'r cyfleuster, os bydd angen, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  12. Cymryd camau i actifadu'r cyfleuster a chynghori cwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  13. Cadw cofnodion cywir wedi'u diweddaru yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  14. Nodi risgiau posibl yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  15. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol sy'n effeithio ar eich gwaith
  2. Y mathau o gyfleuster cyllid neu gredyd a gynigir gan eich sefydliad
  3. Yr amodau sy'n berthnasol i bob cyfleuster sydd oddi mewn i derfynau eich awdurdod eich hun
  4. Manteision a nodweddion pob cyfleuster sydd oddi mewn i derfynau eich awdurdod eich hun
  5. Meini prawf a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â cheisiadau am gyfleusterau cyllid neu gredyd
  6. Y bobl y gallwch chi gyfeirio ymholiadau a cheisiadau atynt, ac y gallwch droi atynt am gyngor
  7. Prosesau canfod ffeithiau y gallwch eu defnyddio i ganfod gofynion cyllid neu gredyd
  8. Sut mae delio gyda sefyllfaoedd lle mae asesiadau'n datgelu anghysondebau, elfennau sydd wedi'u hepgor neu elfennau nad ydynt yn cyfateb
  9. Y ffactorau asesu y mae angen i chi eu hystyried
  10. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer actifadu cyfleusterau cyllid neu gredyd
  11. Dulliau priodol o gyfleu penderfyniadau i gwsmeriaid
  12. Sut mae delio gydag ymholiadau a chwynion
  13. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
  2. Rydych yn arddangos uniondeb, tegwch a chysondeb yn y penderfyniadau a wnewch

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPFC01

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Benthyca; rhoi benthyg; penderfyniad benthyca; gostyngiad; cais am forgais; mandad; sicrwydd; hawl; mantolenni; telerau ac amodau; benthyciad; gorddrafft; wedi'i sicrhau; heb ei sicrhau; ôl-ddyledion; credyd