Goruchwylio a chynnal effeithiolrwydd y broses casgliadau dyledion

URN: FSPDC08
Sectorau Busnes (Suites): Casgliadau Dyledion
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â goruchwylio a chynnal effeithiolrwydd y broses casglu dyledion. Mae hyn yn cynnwys y gefnogaeth a roddir i staff yng nghyswllt achosion cymhleth, a monitro cytundebau lefel gwasanaeth a thargedau i gynnal lefelau perfformiad ac effeithlonrwydd gweithredol. Mae'n cwmpasu monitro prosesau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol, a'u bod yn arddangos ansawdd ac uniondeb. Mae'r safon hon wedi'i bwriadu ar gyfer unigolion sydd â chyfrifoldebau goruchwylio neu reoli ym maes Casgliadau Dyledion.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gwirio bod penderfyniadau'n cael eu cymryd ar adegau priodol a chyda'r awdurdod cywir, yng nghyswllt cyfrifon dyledwyr, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Monitro a chynnal cytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer proses casglu dyledion effeithiol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Gwirio bod targedau yn eu lle i fonitro perfformiad prosesau casglu dyledion, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Nodi a chofnodi anghenion hyfforddi staff a threfnu hyfforddiant sy'n briodol ar gyfer yr anghenion hynny, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Darparu cefnogaeth briodol i staff sy'n delio gydag achosion cymhleth y mae angen eu hesgaladu yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Gwirio bod yr holl wiriadau ansawdd angenrheidiol yn cael eu cyflawni'n briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Cynorthwyo gyda chyflwyno a phrofi prosesau newydd i wella casglu dyledion
  8. Gwirio argaeledd gwybodaeth ac ystadegau rheoli priodol, ac a ydynt wedi cael eu cynnal
  9. Gwirio bod prosesau casglu dyledion yn cydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol, trwyddedau a rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
  10. Cadw cofnodion cywir wedi'u diweddaru yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Pwy yw'r llunwyr penderfyniadau yn eich sefydliad, a'u lefelau awdurdod cysylltiedig
  2. Sut mae mesur cytundebau lefel gwasanaeth
  3. Sut mae rhoi targedau ar waith a'u monitro
  4. Sut mae adnabod anghenion hyfforddi, a'r datrysiadau hyfforddi mwyaf priodol sydd ar gael
  5. Dulliau o ddarparu goruchwyliaeth a chefnogaeth, a phryd mae eu defnyddio
  6. Y mathau o achosion cymhleth y gall fod angen i chi ddelio gyda nhw a'r opsiynau sydd ar gael i'w datrys
  7. Dulliau o wirio ansawdd ac uniondeb gwaith a wnaed
  8. Pryd mae rhoi systemau newydd ar waith, a sut mae gwneud hynny'n effeithiol
  9. Sut mae defnyddio a dehongli gwybodaeth reoli yn effeithiol
  10. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi a storio gwybodaeth
  11. Ymarfer a gweithdrefnau eich sefydliad yng nghyswllt adnabod, hybu a chymhwyso safonau moesegol
  12. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso deddfau, trwyddedau, rheoliadau a chodau fel y maent yn effeithio ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn cyfathrebu'n glir
  2. Rydych yn ysbrydoli eraill i gyflawni eu hamcanion
  3. Rydych yn ymateb i anghenion eraill
  4. Rydych yn arddangos pendantrwydd a hyder wrth weithredu
  5. Rydych yn arddangos cysondeb wrth wneud penderfyniadau
  6. Rydych yn gweithredu ag uniondeb bob amser
  7. Rydych yn wyliadwrus ynghylch risgiau posibl, gan gynnwys gweithgaredd twyllodrus
  8. Rydych yn ymdrin â'ch gwaith mewn modd trefnus
  9. Rydych yn ymddwyn yn broffesiynol ac yn gwrtais wrth ddelio gydag eraill
  10. Rydych yn cyflawni tasgau gan roi sylw dyledus i bolisïau a gweithdrefnau eich sefydliad, gan gynnwys y rhai sy'n ymdrin â safonau moesegol a iechyd a diogelwch yn y gwaith

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPDC08

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ôl-ddyledion; credyd; ad-dalu; peidio â gwneud ad-daliadau; heb eu talu; risg; ansolfedd; credydwr; dyledwr; esgaladu.