Gweinyddu'r broses o gasglu dyledion

URN: FSPDC07
Sectorau Busnes (Suites): Casgliadau Dyledion
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gweinyddu'r broses casglu dyledion. Mae'n ymwneud â sicrhau bod y prosesau gweinyddol oddi mewn i gasglu dyledion yn effeithiol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad rydych chi'n ei gynrychioli, ac nad ydynt yn llesteirio'r broses ad-dalu. Dylid cofnodi'r holl wybodaeth berthnasol a'i lledaenu i'r partïon perthnasol yn brydlon. Pan fo hynny'n un o ofynion eich sefydliad, dylech sicrhau bod eich cofnodion yn gywir ac wedi'u diweddaru, fel bod modd cychwyn achos cyfreithiol pan fo angen. Bydd angen i chi weithredu ag uniondeb bob amser.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Monitro cynnydd gweithdrefnau casglu dyledion ar adegau cytunedig er mwyn sicrhau cywirdeb a phrydlondeb dogfennau a gyflwynwyd a dogfennau a dderbyniwyd
  2. Cysylltu â phobl berthnasol i gael cyngor a chymorth yn y broses o gasglu dyledion, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Gwirio bod y bobl berthnasol yn cael gwybod yn rheolaidd ynghylch taliadau a derbynnir yn uniongyrchol gan ddyledwyr a'r holl amgylchiadau eraill sy'n berthnasol
  4. Gwirio bod yr holl ddogfennaeth a chofnodion taliadau wedi'u diweddaru yn barod ar gyfer unrhyw brosesau ac achosion cyfreithiol dilynol
  5. Gwirio bod cyfrifon dyledwyr yn cael eu hesgaladu ar gyfer achosion cyfreithiol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad yn ôl y galw
  6. Cadarnhau bod gweithdrefnau ac amserlenni casglu dyledion wedi cael eu dilyn i ddarparu cyfiawnhad dros achos cyfreithiol, a chymryd camau lle nad yw hynny wedi digwydd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Crynhoi'r holl dystiolaeth yn unol â chyfraith achosion a chanllawiau a gyhoeddwyd ar gyfer tystion arbenigol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Cyflawni mesurau i gael mynediad at ddeunydd ychwanegol i gefnogi'r dystiolaeth ac i baratoi ar gyfer achos cyfreithiol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Cadw cofnodion cywir ac wedi'u diweddaru o ohebiaeth a dderbyniwyd ac a rannwyd gyda phobl berthnasol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  10. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
  11. Nodi risgiau posibl, gan gynnwys unrhyw weithgaredd twyllodrus yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Dulliau addas o fonitro gweithdrefnau casglu dyledion, a pha mor rheolaidd y dylid defnyddio'r dulliau hynny
  2. Diben a statws cyfreithiol dogfennau y gellir eu cyflwyno a'u derbyn fel rhan o'r broses casglu dyledion
  3. Y mathau o randdeiliaid allanol sy'n gallu cynnig cefnogaeth i'r broses o gasglu dyledion
  4. Y mathau o wybodaeth y dylid eu darparu i bartïon perthnasol os bydd amgylchiadau personol esgusodol, megis materion iechyd a llesiant, ansolfedd dyledwyr a marwolaeth
  5. Pryd byddai er budd i'r credydwr i ddiddymu'r ddyled
  6. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cychwyn achosion cyfreithiol, gan gynnwys pryd mae gwneud hynny'n briodol
  7. Sut mae penderfynu a ddilynwyd gweithdrefnau casglu dyledion yn gywir, ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Ble mae cael hyd i wybodaeth ynghylch cyfraith achosion a chanllawiau ar gyfer tystion arbenigol
  9. Sut mae crynhoi tystiolaeth a deunydd arall sy'n ofynnol i gefnogi achos cyfreithiol
  10. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi a storio gwybodaeth
  11. Ymarfer a gweithdrefnau eich sefydliad yng nghyswllt adnabod, hybu a chymhwyso safonau moesegol
  12. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso deddfau, trwyddedau, rheoliadau a chodau fel y maent yn effeithio ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn ymdrin â'ch gwaith mewn modd trefnus
  2. Rydych yn ymddwyn yn broffesiynol ac yn gwrtais wrth ddelio gydag eraill

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPDC07

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ôl-ddyledion; credyd; ad-dalu; peidio â gwneud ad-daliadau; heb eu talu; risg; ansolfedd; credydwr; dyledwr; esgaladu.