Monitro a diogelu trefniadau ad-dalu dyledion
URN: FSPDC06
Sectorau Busnes (Suites): Casgliadau Dyledion
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro a diogelu trefniadau ad-dalu dyledion. Mae'n ymwneud â defnyddio gwybodaeth eich sefydliad ynghylch trefniadau ad-dalu yn effeithiol i wirio bod cyfrifon wedi cael eu rheoleiddio, yn ogystal ag achosion o beidio â gwneud ad-daliadau y gall fod angen i chi gymryd camau pellach yn eu cylch. Dylid cynnal lefelau priodol o gysylltiad rhwng y credydwr a'r dyledwr, neu eu cynrychiolydd enwebedig, i ddiogelu a chynnal ad-daliadau boddhaol yn y dyfodol. Bydd angen i chi ddangos cysondeb wrth wneud penderfyniadau a gweithredu ag uniondeb bob amser.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod gweithdrefnau yn eu lle i adolygu achosion yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi achosion yng nghyfrifon dyledwyr o reoleiddio, setlo, peidio â gwneud ad-daliadau a pharhau i beidio â gwneud ad-daliadau
- Blaenoriaethu achosion lle mae angen cymryd camau pellach, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Mewn ymateb i barhau i beidio â gwneud ad-daliadau, cychwyn camau gweithredu priodol ar gyfer amgylchiadau dyledwyr yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Parhau i adolygu trefniadau ad-dalu a chyd-drafod a chytuno ar drefniadau ad-dalu diwygiedig addas gyda dyledwyr, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod hysbysiadau cyfreithiol yn cael eu cyflwyno yn ôl y galw, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod cyfrifiadau ad-daliadau diwygiedig yn gywir, a'u bod yn cymryd i ystyriaeth y gyfradd llog y cytunwyd arni gan y sefydliad
- Monitro lefelau ad-daliadau ac unrhyw ddiffygion, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cynnal lefelau priodol o gysylltiad â dyledwyr yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw mewn cysylltiad â'r sefydliad rydych chi'n ei gynrychioli i sicrhau bod y lefelau ad-dalu cyfredol yn ddigonol a chymryd camau priodol lle nad yw hynny'n wir bellach
- Gwirio bod gweithgareddau monitro a diogelu yn cael eu cyflawni yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod cofnodion cywir ac wedi'u diweddaru o newidiadau i amgylchiadau ariannol dyledwyr yn cael eu cadw yn unol â gofynion eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
- Nodi risgiau posibl, gan gynnwys unrhyw weithgaredd twyllodrus yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer monitro achosion a lefelau'r cyfathrebu â'r partïon perthnasol
- Y defnydd o systemau cyfrifiadurol a phryd y gallai fod angen eu diystyru
- Sut mae adnabod rheoleiddio cyfrifon, setliadau sydd heb eu had-dalu ac achosion lle mae peidio ag ad-dalu yn parhau
- Sut mae blaenoriaethu achosion ar gyfer gweithredu pellach
- Y camau mae'n ofynnol i chi eu cymryd, a phryd, oddi mewn i'r ad-dalu
- Sut mae canfod pryd mae'n briodol ailagor trafodaeth ynghylch ad-daliadau, a phryd nad yw hynny'n briodol
- Sut mae cyd-drafod i sicrhau canlyniad effeithiol
- Y mathau o hysbysiadau cyfreithiol a gyflwynir yng nghyswllt casglu dyledion
- Sut mae gwirio cywirdeb a dilysrwydd cyfrifiadau ad-dalu
- Sut mae adnabod problemau posibl gyda'r dyledwr a allai effeithio ar wneud ad-daliadau yn y dyfodol
- Hawliau cyfreithiol gwahanol fathau o gredydwyr a dyledwyr
- Targedau gweithredol eich sefydliad fel y maent yn effeithio ar eich gweithgareddau
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi a storio gwybodaeth
- Ymarfer a gweithdrefnau eich sefydliad yng nghyswllt adnabod, hybu a chymhwyso safonau moesegol
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso deddfau, trwyddedau, rheoliadau a chodau fel y maent yn effeithio ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn arddangos pendantrwydd a hyder wrth weithredu
- Rydych yn ymdrin â'ch gwaith mewn modd trefnus
- Rydych yn ymddwyn yn broffesiynol ac yn gwrtais wrth ddelio gydag eraill
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPDC06
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Ôl-ddyledion; credyd; ad-dalu; peidio â gwneud ad-daliadau; heb eu talu; risg; ansolfedd; credydwr; dyledwr; esgaladu.