Cyd-drafod datrysiadau ad-dalu ar gyfer dyledion sydd heb eu talu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyd-drafod datrysiadau ad-dalu ar gyfer dyledion sydd heb eu talu. Mae'n ymwneud â'r camau gweithredu y mae'n rhaid eu cymryd pan na all dyledwr wneud ad-daliad llawn ar unwaith. Rhaid i chi weithio gyda'r dyledwr i ddeall yr amgylchiadau ariannol a chyd-drafod cynllun ad-daliadau sy'n dderbyniol i'r dyledwr a'r credydwr. Os deuir i gytundeb, rhaid i chi roi'r cynllun ad-daliadau ar waith a rhoi gwybod i'r rhanddeiliaid perthnasol. Os na ddeuir i gytundeb, neu os ydych yn amau bod gweithgaredd twyllodrus/gwyngalchu arian yn digwydd, rhaid i chi roi gwybod i'r partïon perthnasol. Bydd angen i chi ddangos cysondeb wrth wneud penderfyniadau a gweithredu ag uniondeb bob amser.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi a ymchwilio i'r rhesymau dros ôl-ddyledion yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gweithio gyda dyledwyr i ganfod strategaeth dderbyniol ar gyfer cyflawni ad-daliad llawn, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyflwyno opsiynau realistig ar gyfer dileu ôl-ddyledion sy'n briodol ar gyfer amgylchiadau'r dyledwr a pholisi casglu'r credydwr
- Cytuno gyda dyledwyr ar gynllun ad-daliadau cyflawnadwy yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ceisio tystiolaeth ategol yn unol â gofynion lleol os bydd dyledwyr yn gofyn am drefniadau talu arbennig
- Paratoi a gweithredu cytundebau ad-dalu yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhoi gwybod i'r holl bartïon perthnasol am fanylion gofynnol y cytundebau ad-dalu, gan gynnwys dogfennau priodol
- Rhoi gwybod i'r partïon perthnasol am fethiant i ddod i gytundeb a chychwyn camau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhoi gwybod am amheuon ynghylch gweithgaredd twyllodrus neu wyngalchu arian i'r partïon priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cywir wedi'u diweddaru yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
- Nodi risgiau posibl, gan gynnwys unrhyw weithgaredd twyllodrus yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y problemau y gall dyledwyr eu hwynebu o ran cadw at y taliadau y cytunwyd arnynt
- Sut mae ymchwilio i effaith bosibl anawsterau i wneud ad-daliadau
- Datrysiadau posibl ar gyfer ad-dalu dyledion
- Sut mae gwerthuso'r datrysiad mwyaf priodol i ymateb i wahanol fathau o amgylchiadau ariannol
- Sut mae cyd-drafod i sicrhau canlyniad effeithiol
- Mathau o dystiolaeth ategol sy'n dderbyniol i'r sefydliad
- Sut mae paratoi a gweithredu cynllun ad-daliadau, a'r dogfennau sydd i'w cyflwyno
- Y partïon perthnasol y mae'n rhaid i chi ddarparu copïau o'r cytundeb ad-daliadau iddynt
- Y partïon perthnasol y dylid eu hysbysu os na ellir dod i gytundeb ynghylch ad-daliadau
- Sut mae adnabod a rhoi gwybod am dwyll neu wyngalchu arian
- Yr hawliau cyfreithiol a'r awdurdodaethau sy'n berthnasol i wahanol fathau o gredydwyr a dyledwyr
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi a storio gwybodaeth
- Ymarfer a gweithdrefnau eich sefydliad yng nghyswllt adnabod, hybu a chymhwyso safonau moesegol
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso deddfau, trwyddedau, rheoliadau a chodau fel y maent yn effeithio ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn fedrus am ddatrys problemau
- Rydych yn ystyried beth sy'n rhesymol, o ystyried yr amgylchiadau cyffredinol
- Rydych yn cyfleu gwybodaeth gymhleth mewn modd clir
- Rydych yn parhau'n ddigynnwrf wrth ddelio gyda sefyllfaoedd heriol
- Rydych yn arddangos pendantrwydd a hyder wrth weithredu
- Rydych yn ymdrin â'ch gwaith mewn modd trefnus
- Rydych yn ymddwyn yn broffesiynol ac yn gwrtais wrth ddelio gydag eraill