Cytuno ar ffordd ymlaen ar gyfer ad-daliadau gyda dyledwyr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chytuno ar ffordd ymlaen ar gyfer ad-daliadau gyda'r dyledwr. Mae'n ymwneud â chanfod a yw'r dyledwr mewn sefyllfa i wneud ad-daliad llawn ar unwaith, a datrys unrhyw anawsterau sydd gan y dyledwr o ran cydnabod y ddyled. Cyflawnir hyn trwy sefydlu proffil y dyledwr. Rhaid i chi allu cyfeirio'r dyledwr at adrannau eraill/asiantaethau allanol pan fo hynny'n briodol. Os bydd y dyledwr yn anghytuno ynghylch y swm sy'n ddyledus, rhaid i chi fedru cymryd camau priodol naill ai i ddilysu neu i wrthweithio'r safbwynt hwn. Rhaid i chi ofalu bob amser na fyddwch yn peryglu'r sefyllfa gyfreithiol. Bydd angen i chi ddangos cysondeb wrth wneud penderfyniadau a gweithredu ag uniondeb bob amser.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dod i gysylltiad â dyledwyr gan ddefnyddio dulliau sy'n briodol ar gyfer eu sefyllfaoedd unigol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod dyledwyr yn gallu dilysu eich perthynas gyda'r sefydliad y mae'r dyledion yn gysylltiedig ag ef, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Darparu gwybodaeth i ddyledwyr sy'n egluro eu rhwymedigaethau o ran dyledion yn eglur, a hefyd eu sefyllfa gyfreithiol, ac yn ymdrin â chwestiynau sydd ganddynt yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Sefydlu proffil y dyledwr yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cofnodi manylion cytundebau dyledwr tuag at ffordd ymlaen o ran ad-dalu'r swm sy'n ddyledus yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfeirio dyledwyr at adrannau eraill neu asiantaethau allanol lle bo hynny'n briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Egluro a chofnodi rhesymau a manylion lle ceir anghydfod ynghylch rhan o'r dyledion neu'r cyfan
- Cyflawni ymchwiliad llawn o anghydfodau, gan gynnwys caffael tystiolaeth ategol neu i'r gwrthwyneb gan bartïon priodol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cymryd camau sy'n briodol ar gyfer canlyniad ymchwiliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod yr holl gyfathrebu ysgrifenedig ansafonol yn glir, yn gywir a heb beryglu sefyllfa gyfreithiol y sefydliad rydych chi'n ei gynrychioli
- Gwirio bod cofnodion cywir ac wedi'u diweddaru yn cael eu cadw, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad.
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
- Nodi risgiau posibl, gan gynnwys unrhyw weithgaredd twyllodrus yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Ffactorau sy'n dylanwadu ar y dewis o ddulliau cyswllt
- Yr wybodaeth y mae'n ofynnol eich bod chi'n ei datgelu i ddyledwyr i gyflawni rhwymedigaethau rheoliadol eich sefydliad
- Y rhwymedigaethau sydd ar ddyledwyr, a'r canlyniadau posibl i ddyledwyr os na fyddant yn cyflawni'r rhwymedigaethau hynny
- Yr hawliau cyfreithiol a'r awdurdodaethau sy'n berthnasol i wahanol fathau o gredydwyr a dyledwyr
- Beth a olygir gan 'broffil y dyledwr' a sut mae'n cael ei sefydlu
- Y gwahanol adrannau neu asiantaethau cyngor allanol y gellir cyfeirio dyledwyr atynt am gyngor a help
- Sut mae cyrchu, casglu a gwerthuso tystiolaeth fel rhan o ymchwiliad i anghydfod
- Camau gweithredu y gellir eu cyflawni wedi ymchwilio i anghydfod
- Dulliau priodol o gyfathrebu, gan gynnwys ffurfiau ansafonol, sy'n effeithiol a heb fod yn peryglu safbwynt cyfreithiol sefydliad y credydwr
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi a storio gwybodaeth
- Ymarfer a gweithdrefnau eich sefydliad yng nghyswllt adnabod, hybu a chymhwyso safonau moesegol
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso deddfau, trwyddedau, rheoliadau a chodau fel y maent yn effeithio ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn cyfleu gwybodaeth gymhleth mewn modd clir
- Rydych yn arddangos pendantrwydd a hyder wrth weithredu
- Rydych yn ymdrin â'ch gwaith mewn modd trefnus
- Rydych yn parhau'n ddiplomataidd ac yn ddigynnwrf wrth ddelio gyda sefyllfaoedd heriol
- Rydych yn sensitif i wahaniaethau diwylliannol, a materion iechyd a llesiant
- Rydych yn ymddwyn yn broffesiynol ac yn gwrtais wrth ddelio gydag eraill