Casglu a dilysu gwybodaeth am gredyd i gychwyn casgliadau dyledion
URN: FSPDC01
Sectorau Busnes (Suites): Casgliadau Dyledion
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chanfod y gofynion ar gyfer casglu dyledion. Yn ogystal â sicrhau gwybodaeth ddigonol i'ch galluogi i gychwyn ar drefniadau casglu gyda'r dyledwr, rhaid i chi ganfod a dilysu'r swm sy'n ddyledus, a chadarnhau hunaniaeth y dyledwr a'r manylion cyswllt. Bydd angen i chi ystyried ffactorau a allai effeithio ar weithdrefnau a rheoliadau casglu dyledion. Bydd angen i chi ddangos cysondeb wrth wneud penderfyniadau a gweithredu ag uniondeb bob amser.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod trefniadau clir yn eu lle ar gyfer casglu dyledion, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod gennych chi ddigon o wybodaeth i gadarnhau hunaniaeth a manylion cyswllt dyledwyr neu eu cynrychiolwyr enwebedig
- Casglu unrhyw fanylion adnabod a chyswllt sydd ar goll yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cymryd camau i gael hyd i wybodaeth ariannol allweddol sydd ar goll, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio dilysrwydd a chywirdeb gwybodaeth ariannol a dderbyniwyd gan yr holl drydydd partïon perthnasol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadarnhau bod gweithdrefnau casglu dyledion yn briodol ar gyfer y math o ddyled, p'un a ydyw'n fasnachol neu'n anfasnachol
- Canfod a oes sicrwydd ar gyfer dyledion a chyflawni gweithdrefnau casglu dyledion yn unol â hynny
- Dadansoddi gwybodaeth ariannol ac ynghylch credyd i gadarnhau bod angen i weithdrefnau casglu dyledion gychwyn
- Cadw cofnodion cywir ac wedi'u diweddaru, yn unol â gofynion eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
- Nodi risgiau posibl, gan gynnwys unrhyw weithgaredd twyllodrus yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gweithdrefnau busnes eich sefydliad ar gyfer casglu dyledion, gan gynnwys y ffïoedd a'r costau sy'n gysylltiedig â chasglu dyledion
- Y mathau o wybodaeth ariannol ac anariannol y bydd arnoch eu hangen ynghylch dyledwyr i hwyluso trefniadau casglu
- Sut mae gwirio dilysrwydd a chywirdeb gwybodaeth ariannol a dderbyniwyd, a sut mae cael hyd i wybodaeth sydd ar goll
- Gweithdrefnau eich sefydliad yng nghyswllt dyledwyr na ellir dod i gysylltiad â nhw
- Rheolau perthnasol ynghylch ansolfedd, gan gynnwys Trefniadau Gwirfoddol Unigol (IVAs) a methdaliad
- Rheolau perthnasol ynghylch Caniatáu Profiant
- Y gwahanol endidau busnes cyfreithiol, a'r ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar eu hatebolrwydd
- Y mathau gwahanol o sicrwydd y gellir eu dal dros ddyledion a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch gwireddu sicrwydd rheolau perthnasol ynghylch cynrychiolaeth yn wyneb analluedd corfforol a meddyliol
- Sut mae dadansoddi gwybodaeth berthnasol am faterion ariannol a chredyd
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi a storio gwybodaeth
- Ymarfer a gweithdrefnau eich sefydliad yng nghyswllt adnabod, hybu a chymhwyso safonau moesegol
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso deddfau, trwyddedau, rheoliadau a chodau fel y maent yn effeithio ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn ymdrin â gwaith mewn modd trefnus
- Rydych yn cyfleu gwybodaeth mewn modd clir
- Rydych yn ymddwyn yn broffesiynol ac yn gwrtais wrth ddelio gydag eraill
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPDC01
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Ôl-ddyledion; credyd; ad-dalu; peidio â gwneud ad-daliadau; heb eu talu; risg; ansolfedd; credydwr; dyledwr; esgaladu.