Rhoi talu trwy randaliadau ar waith
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi talu drwy randaliadau ar waith. Efallai bydd y safon hon yn addas i chi os yw eich gwaith yn golygu eich bod yn trefnu talu drwy randaliadau ac yn delio gydag ymholiadau a thrafodion sydd wedi methu. Wrth ddefnyddio gweithdrefnau talu trwy randaliadau, byddwch yn nodi pa drafodion sydd i'w talu drwy randaliadau, a'r data perthnasol sy'n ofynnol, gan gaffael unrhyw wybodaeth sydd ar goll. Byddwch yn sicrhau bod trefniadau rhandaliadau yn cael eu gweithredu'n gywir ac yn unioni gwallau lle digwyddant. Byddwch yn ymchwilio i unrhyw sefyllfaoedd sy'n ymwneud â thaliadau anghywir neu daliadau sydd wedi methu ac yn eu datrys. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith a gweithredu oddi mewn i derfynau eich cyfrifoldeb.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi trafodion sydd i'w talu trwy randaliadau
- Gwirio bod y cyfarwyddyd rhandaliadau yn cynnwys gwybodaeth berthnasol a chywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Casglu gwybodaeth goll o'r ffynonellau priodol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Sefydlu cofnodion talu yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhoi gweithdrefnau ar waith i fynd ar drywydd taliadau sydd wedi methu, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Canfod y rhesymau dros beidio â thalu, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cytuno ar drefniadau priodol i'r cwsmer addasu cyfarwyddiadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Monitro cydymffurfiaeth y cwsmer â'r trefniadau y cytunwyd arnynt
- Cyflwyno hysbysiadau priodol pan eir dros y terfynau amser diofyn, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion wedi'u diweddaru yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor o fewn eich sefydliad
- Safonau eich sefydliad o ran amserlenni
- Sut mae gwybodaeth yn cael ei storio a sut mae cael mynediad iddi
- Gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad (gan gynnwys delio gyda chwynion)
- Terfynau eich awdurdod eich hun a'r camau sy'n ofynnol os bydd rhaid gweithredu mewn modd sydd y tu hwnt i'ch awdurdod
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
- Gweithdrefnau taliadau cwsmeriaid
- Systemau, gweithdrefnau a therfynau amser eich sefydliad ar gyfer rhoi talu trwy randaliadau ar waith
- Sut mae dehongli cyfarwyddiadau ynghylch rhandaliadau
- Systemau gweithredu systemau trosglwyddiadau bancio priodol
- Systemau codio safonol, gan gynnwys codau gwrthod
- Gweithdrefnau esgaladu wrth ddelio gyda thaliadau hwyr
- Dulliau gwahanol o dderbyn gwybodaeth ariannol
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn dangos parch at eraill yn eich ymwneud â nhw