Paratoi a mynd ar ôl datganiadau cyfrifon ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau ariannol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a mynd ar ôl datganiadau cyfrifon ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau ariannol. Efallai bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n cyflawni swyddogaeth cyfrifyddu yswiriant mewn sefydliad gwasanaethau ariannol. Bydd eich gwaith yn cynnwys dosbarthu datganiadau cyfrifon a datrys ymholiadau ynghylch datganiadau cyfrifon. Mae paratoi a dosbarthu datganiadau cyfrifon i gwsmeriaid yn gofyn eich bod yn paratoi datganiadau cywir, gan roi ystyriaeth i'r holl ffactorau perthnasol, yn paratoi datganiadau yn unol â gofynion eich sefydliad a'r cwsmer, ac yn cadw a chynnal cofnodion cywir. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith a gweithredu oddi mewn i derfynau eich cyfrifoldeb.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dosbarthu datganiadau yn nhrefn blaenoriaeth ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Dyrannu'r holl arian parod sy'n weddill a chytuno ar gofnodion y setliad
- Cyflawni unrhyw drefniadau arbennig yng nghyswllt y cyfrif, fel y cytunwyd gyda chwsmeriaid
- Nodi meysydd sy'n destun pryder arbennig a chymryd camau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion o ddyddiadau dosbarthu datganiadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi eitemau y mae anghydfod yn eu cylch a chymryd camau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Darparu copïau o ddogfennaeth ar gais yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwerthuso a phenderfynu ar ddilysrwydd manylion pan na chytunwyd ar y rheiny yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Sicrhau bod y bobl berthnasol yn derbyn gwybodaeth yn gyson ynghylch camau cyfrifyddu arfaethedig, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Pasio eitemau sy'n weddill ar gyfer setliad pan fyddant wedi cael eu datrys yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Pasio eitemau sydd heb eu datrys at bobl berthnasol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor o fewn eich sefydliad
- Safonau eich sefydliad o ran amserlenni
- Sut mae gwybodaeth yn cael ei storio a sut mae cael mynediad iddi
- Gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad (gan gynnwys delio gyda chwynion)
- Terfynau eich awdurdod eich hun a'r camau sy'n ofynnol os bydd rhaid gweithredu mewn modd sydd y tu hwnt i'ch awdurdod
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
- Gweithdrefnau taliadau cwsmeriaid
- Sut mae defnyddio systemau cyfriflenni
- Systemau, gweithdrefnau a therfynau amser eich sefydliad ar gyfer paratoi a mynd ar ôl datganiadau cyfrifon
- Dulliau gwahanol o dderbyn gwybodaeth ariannol
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn rhoi perfformiad cyson a dibynadwy yn y
gwaith