Defnyddio gweithdrefnau rheoli credyd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio gweithdrefnau rheoli credyd. Efallai bydd y safon hon yn addas i chi os yw eich gwaith yn cynnwys canfod achosion o beidio â thalu a chymryd camau priodol i adennill arian sy'n ddyledus. Mae defnyddio gweithdrefnau rheoli credyd yn gofyn eich bod yn adnabod yn gywir ac yn deall y rheswm/rhesymau dros beidio â thalu, yn nodi cyfleoedd i gasglu arian, ac yn sylweddoli pryd y dylid cyfeirio dyledion sydd heb eu talu at eraill yn eich sefydliad. Mae hyn yn cynnwys achosion lle cafwyd taliad rhannol. Bydd angen i chi gymryd i ystyriaeth oedran y ddyled, yn ogystal â'i gwerth a'r math o fusnes. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith a gweithredu oddi mewn i derfynau eich cyfrifoldeb.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi achosion o beidio â thalu yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi dyledion gwael a rhai a allai droi'n wael yn gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cymryd camau i adennill arian sy'n ddyledus, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Canfod y rhesymau dros beidio â thalu, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Egluro anghysondebau a gofyn am unrhyw symiau sydd heb eu talu, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Sicrhau cytundeb y cwsmer i dalu'r swm sy'n ddyledus, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cytuno ar ddulliau talu priodol gyda'r cwsmer a monitro eu cydymffurfiaeth â hwy
- Nodi achosion o beidio â thalu sy'n parhau a chymryd camau priodol sy'n ddyledus, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi natur ac amgylchiadau deilydd y cyfrif a'u cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu pa gamau i'w cymryd sy'n ddyledus, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion wedi'u diweddaru o'r holl gamau a gymerwyd oedd yn ddyledus, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor o fewn eich sefydliad
- Safonau eich sefydliad o ran amserlenni
- Sut mae gwybodaeth yn cael ei storio a sut mae cael mynediad iddi
- Gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
- Terfynau eich awdurdod eich hun a'r camau sy'n ofynnol os bydd rhaid gweithredu mewn modd sydd y tu hwnt i'ch awdurdod
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
- Gweithdrefnau taliadau cwsmeriaid
- Systemau cyfriflenni
- Systemau, gweithdrefnau a therfynau amser eich sefydliad ar gyfer delio gyda thaliadau hwyr
- Dulliau gwahanol o dderbyn gwybodaeth ariannol
- Gweithdrefnau esgaladu wrth ddelio gyda thaliadau hwyr
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer adnabod dyledion gwael a rhai a allai fod yn wael
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
- Rydych yn dangos parch at eraill yn eich ymwneud â nhw