Asesu a defnyddio gwybodaeth ariannol i gysoni cyfrifon
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag asesu a defnyddio gwybodaeth ariannol i gysoni cyfrifon. Efallai bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n cyflawni swyddogaeth cyfrifyddu yswiriant mewn unrhyw fath o sefydliad gwasanaethau ariannol. Bydd eich gwaith yn cynnwys derbyn ac asesu gwybodaeth ariannol a datrys ymholiadau sy'n deillio o wybodaeth a dderbyniwyd gennych. Mae cysoni cyfrifon yn gofyn eich bod yn gallu paru gwybodaeth â chyfrifon ariannol a chanfod unrhyw anghysondebau, a chymryd y camau priodol i'w datrys. Byddwch yn cyfeirio ymholiadau sydd heb eu datrys at y person priodol yn eich sefydliad. Gallai hyn olygu nad yw'r taliad wedi dod i law eto, neu bod y symiau anghywir wedi cael eu prosesu, neu bod manylion y cofnod heb eu prosesu eto. Bydd angen i chi weithredu oddi mewn i derfynau eich cyfrifoldeb a rhoi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Delio gyda gwybodaeth ariannol yn ôl y flaenoriaeth sy'n ofynnol gan weithdrefnau eich cyflogwr
- Derbyn gwybodaeth ariannol a pharu'r manylion â chyfrifon cwsmeriaid
- Nodi unrhyw fanylion nad ydynt yn cyfateb a ffynhonnell y taliad
- Egluro pam nad yw manylion yn cyfateb i bobl neu gofnodion priodol
- Cymryd camau yn achos manylion nad ydynt yn cyfateb, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymateb i ohebiaeth oddi mewn i'r terfynau amser cytunedig a darparu gwybodaeth reolaidd i bobl ynghylch cynnydd ymholiadau ynghylch cyfrifon
- Nodi ymholiadau sydd heb eu datrys a'u trosglwyddo i bobl briodol
- Casglu gwybodaeth ynghylch ymholiadau a chymryd camau priodol
- Prosesu ymholiadau pan gânt eu datrys a diweddaru'r wybodaeth am gyfrifon
- Cadarnhau bod cyfrifon cwsmeriaid wedi'u cysoni cyn eu diweddaru a'u storio yn y ffurf ofynnol
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor o fewn eich sefydliad
- Safonau eich sefydliad o ran amserlenni
- Sut mae gwybodaeth yn cael ei storio a sut mae cael mynediad iddi
- Gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
- Terfynau eich awdurdod eich hun a'r camau sy'n ofynnol os bydd rhaid gweithredu mewn modd sydd y tu hwnt i'ch awdurdod
- Gweithdrefnau esgaladu wrth ddelio gydag ymholiadau sydd heb eu datrys
- Systemau, gweithdrefnau a therfynau amser eich sefydliad ar gyfer cysoni taliadau cwsmeriaid
- Sut mae defnyddio systemau cyfriflenni
- Dulliau gwahanol o dderbyn gwybodaeth ariannol
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn dangos parch at eraill yn eich ymwneud â nhw