Prosesu trafodion ariannol cwsmeriaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu trafodion ariannol cwsmeriaid. Efallai bydd y safon hon yn addas i chi os yw eich gwaith yn golygu eich bod yn derbyn taliadau gan gwsmeriaid, neu'n gwneud taliadau i gwsmeriaid ac yn monitro taliadau cwsmeriaid. Pan fyddwch chi'n derbyn arian gan gwsmeriaid, neu'n gwneud taliadau iddynt, mae'n bwysig sicrhau bod y swm a'r dogfennau'n gywir, a bod yr holl weithdrefnau'n cael eu cyflawni yn unol â gofynion eich sefydliad. Byddwch hefyd yn gyfrifol am wirio bod taliadau cwsmeriaid yn cael eu gwneud yn brydlon. Bydd rhaid i chi nodi ac adrodd os bydd taliad yn hwyrach nag a bennwyd, neu os bydd unrhyw anghysondebau yn y dogfennau. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod yr holl ddogfennaeth, y manylion a nodwyd a'r cofnodion yn gywir ac yn ddarllenadwy
- Derbyn taliadau gan gwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwneud taliadau i gwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod y symiau a'r gweddillion a nodwyd yn gywir
- Adnabod anghysondebau mewn dogfennaeth a chymryd camau priodol
- Prosesu taliadau'n gywir yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cywir o drafodion, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor o fewn eich sefydliad
- Amserlenni eich sefydliad ar gyfer cyflawni trafodion ariannol
- Sut mae gwybodaeth yn cael ei storio a sut mae cael mynediad iddi
- Gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad (gan gynnwys delio gyda chwynion
- Terfynau eich awdurdod eich hun a'r camau sy'n ofynnol os bydd rhaid gweithredu mewn modd sydd y tu hwnt i'ch awdurdod
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
- Systemau, gweithdrefnau a therfynau amser eich sefydliad ar gyfer prosesu taliadau i gwsmeriaid neu ganddynt
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer paratoi cyfrifon, gan gynnwys trefniadau ar gyfer gwneud newidiadau
- Dulliau gwahanol o dderbyn gwybodaeth ariannol
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau ymarfer, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn rhoi perfformiad cyson a dibynadwy yn y gwaith
- Rydych yn dangos parch at eraill yn eich ymwneud â nhw