Asesu ac adolygu’r risgiau cydymffurfio sy’n berthnasol i’ch sefydliad
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag asesu tebygolrwydd ac effaith diffyg cydymffurfio yn eich sefydliad. Mae’n rhaid i chi gwblhau asesiad risg cydymffurfio i nodi unrhyw feysydd diffyg cydymffurfio. Mae’n rhaid i chi asesu’r risgiau a nodwyd yn yr asesiad risg a’u hadolygu’n rheolaidd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. asesu’r risgiau i bennu tebygolrwydd ac effaith diffyg cydymffurfio yn eich sefydliad
2. asesu’r risgiau cydymffurfio a chwblhau asesiad risg cydymffurfio o’ch sefydliad
3. nodi unrhyw fylchau yn eich gwybodaeth am y risgiau cydymffurfio y mae eich sefydliad yn eu hwynebu a nodi lleoliad y wybodaeth hon
4. cyfleu canlyniadau’r asesiad risg cydymffurfio i bartïon perthnasol
5. cofnodi’r camau a gymerwyd gan y sefydliad i liniaru’r risgiau
6. monitro canlyniadau’r camau
7. adolygu’r asesiad risg cydymffurfio ar adegau rheolaidd, y cytunwyd arnynt, a phryd gall digwyddiadau penodol effeithio ar yr asesiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. diben asesiad risg cydymffurfio
2. pam dylech chi adolygu’r asesiad risg cydymffurfio
3. pwy sy’n gyfrifol am risgiau busnes
4. pwy sy’n atebol am risgiau busnes
5. sut i asesu risg cydymffurfio
6. archwaeth risg eich sefydliad
7. ble i ddod o hyd i wybodaeth am y risgiau cydymffurfio y mae eich sefydliad yn eu hwynebu a sut i nodi bylchau
8. sut i gyfleu’r canlyniadau ac i bwy
9. pam mae’n bwysig cofnodi a monitro’r camau y cytunwyd arnynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyrff rheoleiddio
Dylid ymestyn y term hwn (lle bo’n briodol) i unrhyw awdurdod, corff neu berson sydd â chyfrifoldeb, neu y bu ganddynt gyfrifoldeb, am oruchwylio neu reoleiddio unrhyw weithgareddau rheoledig neu wasanaethau ariannol eraill, boed yn y Deyrnas Unedig neu dramor.
Rheoliadau
Mae’r term hwn (lle bo’n briodol) yn cwmpasu’r amrywiaeth o rwymedigaethau, gan gynnwys rheolau, egwyddorion, codau a chanllawiau, a phob deddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd, ynghyd â goruchwyliaeth, y mae eich sefydliad yn atebol iddynt.