Prosesu'r dogfennau ar gyfer cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu

URN: FSPBA09
Sectorau Busnes (Suites): Cyfrifon Banc
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chi'n darparu dogfennau i gwsmeriaid yn dystiolaeth o'r cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu y cytunwyd arno.  Ar ôl i'r cais gael ei dderbyn, byddwch yn paratoi ac yn cyflwyno'r dogfennau gofynnol i'r cwsmer, gan ddatrys unrhyw amwysder neu anghysondeb. Rhaid i chi sicrhau bod yr holl wybodaeth yn cael ei phrosesu'n gywir a bod y dogfennau a gynhyrchir o ganlyniad yn gywir. Bydd angen i chi gasglu a rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon, yn foesegol a chan barchu cyfrinachedd. Bydd angen hefyd i chi gyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno a rhoi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Casglu'r holl wybodaeth angenrheidiol i brosesu dogfennaeth yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Nodi'r wybodaeth gywir yn y man priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Cynhyrchu dogfennau sy'n gywir ac sy'n unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Datrys unrhyw anghysondebau neu elfennau nad ydynt yn cyfateb yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Cyflwyno dogfennau i'r rhai sydd eu hangen yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Cadw cofnodion cyflawn wedi'u diweddaru yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Gwirio bod dogfennau'n gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Terfynau eich awdurdod
  2. Ffynonellau gwybodaeth a chyngor
  3. Safonau eich sefydliad o ran gwasanaeth ac amserlen
  4. Sut mae cael mynediad i gofnodion cwsmeriaid
  5. Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi gwybodaeth
  6. Sut mae delio gyda sefyllfaoedd lle mae'r wybodaeth a ddarparwyd yn datgelu anghysondebau neu elfennau nad ydynt yn cyfateb
  7. Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
  8. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer paratoi dogfennaeth yn dystiolaeth o gyfrifon banc a chymdeithas adeiladu
  9. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
  2. Rydych yn datgelu gwybodaeth dim ond i'r rhai sydd ei hangen

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPBA09

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gwallau; gweithdrefnau; dogfennaeth; lefelau arian parod; trafodion amheus; anghysondebau; risgiau; gwyngalchu arian; goruchwyliaeth; gwaith tîm; awdurdod; diogeledd; tynnu allan