Prosesu trosglwyddiadau arian cyfredol tramor
URN: FSPBA08
Sectorau Busnes (Suites): Cyfrifon Banc
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i brosesu trosglwyddo pob math o arian tramor, yn unol â gofynion eich sefydliad. Bydd angen i chi weithredu cyfrifon arian cyfredol a threfnu bargeinion cyfnewid arian tramor i gwsmeriaid. Bydd rhaid i chi ddefnyddio amrywiaeth o wahanol ddulliau i drosglwyddo cyllid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Rhoi gwybod i gwsmeriaid am y dull mwyaf priodol o drosglwyddo cyllid dramor yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Hysbysu cwsmeriaid ynghylch y cyfraddau cyfnewid sydd ar gael, y cyfyngiadau a'r taliadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadarnhau argaeledd cyllid i'w drosglwyddo dramor ac anfon contractau gyda'r bobl berthnasol ymlaen yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Casglu cyfarwyddiadau cwsmeriaid ar gyfer trosglwyddiadau tramor a chwblhau'r cais yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Trosglwyddo ceisiadau i'r uned wasanaethu oddi mewn i derfynau amser priodol, gan ddefnyddio gweithdrefnau diogelu cywir
- Prosesu ceisiadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhoi gwybod i gwsmeriaid ynghylch derbyn cyllid o dramor a'r taliadau a godir yn dilyn hysbysiad gan yr uned wasanaeth
- Cyflawni cyfarwyddiadau gwaredu cwsmeriaid, a rhoi gwybod i'r bobl berthnasol
- Gweithredu cyfrifon arian cyfredol i gwsmeriaid sy'n addas at eu hanghenion a chyflenwi'r wybodaeth a'r tariffau priodol iddyn nhw
- Monitro cyfrifon arian cyfredol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi gofynion cwsmeriaid o ran cyfnewid arian tramor, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfleu cyfarwyddiadau'r cwsmer i ddelwyr yn yr uned wasanaethu yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Hysbysu cwsmeriaid ynghylch sail cyfraddau cyfredol ac unrhyw gyfyngiadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Trosglwyddo cyfarwyddiadau sydd y tu hwnt i derfynau eich awdurdod eich hun i bobl berthnasol
- Hysbysu rheolwyr y gangen am gyfansymiau cyfredol contractau parod a blaengontractau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion wedi'u diweddaru yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Cyfraddau cyfnewid, cyfyngiadau a thaliadau cyfredol
- cyfraddau prynu a gwerthu
- Gweithdrefnau diogelu ar gyfer trosglwyddiadau
- Diben gwyngalchu arian a sut mae ei ganfod
- Gweithdrefnau ar gyfer delio gydag achosion lle mae amheuon ynghylch gwyngalchu arian a'r ddeddfwriaeth briodol
- Y bobl y dylech gyfeirio cyfarwyddiadau y tu allan i'ch cylch gorchwyl atynt
- Yr arian cyfredol sydd ar gael ac unrhyw gyfyngiadau a all fod yn berthnasol
- Ffynonellau gwybodaeth ynghylch cyfraddau
- Sut mae cwblhau a dilysu ceisiadau am drosglwyddo cyllid dramor
- Y mathau o drosglwyddiadau sydd ar gael, a'u nodweddion a'u manteision
- Gweithdrefnau ar gyfer awdurdodi taliadau
- Gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer derbyn cyllid o dramor a chwblhau trafodion gyda chwsmeriaid
- Mathau o gyfrifon arian cyfredol a'u nodweddion a'u manteision, gan gynnwys eu cyfraddau llog
- Gweithdrefnau agor cyfrifon
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer monitro a chadw cofnodion o gyfrifon arian cyfredol
- Mathau o drefniadau cyfnewid a chontractau sydd ar gael, gan gynnwys blaengontractau
- Contractau sefydlog a chontractau opsiynau, contractau caeedig a rhai sy'n estyn
- Y bobl sydd wedi'u hawdurdodi i dderbyn cyfarwyddiadau a dogfennaeth penderfyniadau cwsmeriaid
- Gweithdrefnau eich sefydliad a'r terfynau cyfreithiol ar gyfer trefnu bargeinion tramor
- Gweithdrefnau ar gyfer trefnu i gyfnewid arian tramor
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn rhoi perfformiad cyson a dibynadwy yn y gwaith
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno
- Rydych yn esbonio pethau fel bod eraill yn deall
- Rydych yn dangos dealltwriaeth glir o wahanol gwsmeriaid a'u hanghenion
- Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i waith
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPBA08
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cyfraddau cyfnewid; cyfyngiadau; taliadau a godir; cronfeydd; contract; cais; gwaredu; tariffau; cyfnewid arian tramor; contractau sydyn a blaengontractau; cyfradd prynu; cyfradd gwerthu; gwyngalchu arian