Goruchwylio gweinyddu cynnyrch a gwasanaethau ariannol
URN: FSPBA07
Sectorau Busnes (Suites): Cyfrifon Banc a Chymdeithas Adeiladu
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r rhai sy'n goruchwylio gwaith swyddfa ganol neu gefn sy'n delio gyda dogfennau ac ymholiadau ynghylch gwerthu cynnyrch a gwasanaethau ariannol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Monitro cydweithwyr yr ydych chi'n gyfrifol amdanynt, i wirio bod ymholiadau'n derbyn sylw yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Monitro'r wybodaeth sy'n cael ei darparu gan staff oddi mewn i'ch cyfrifoldeb i wirio ei bod yn gywir ac wedi'i diweddaru, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gweithredu pan fydd ymholiadau wedi cael eu trin mewn modd anghywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod y dogfennau wrth wneud cais am gynnyrch a gwasanaethau a dderbynnir i'w prosesu yn gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Monitro dogfennaeth cyfrifon a broseswyd i gadarnhau ei bod yn gywir, yn gyflawn ac wedi'i hanfon yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gweithredu pan fydd dogfennau cyfrifon wedi cael eu prosesu'n anghywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Delio gydag unrhyw ddogfennau anghywir neu anghyflawn, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Monitro cofnodion i sicrhau eu bod wedi'u diweddaru ac wedi'u prosesu'n gywir yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gweithdrefnau gweinyddu perthnasol eich sefydliad, gan gynnwys y dogfennau a'r cofnodion sydd i'w cwblhau oddi mewn i'ch meysydd cyfrifoldeb, a'r mathau o wybodaeth sy'n ofynnol i sicrhau bod y rhain yn gyflawn
- Prif gynnyrch a gwasanaethau eich sefydliad
- Y dulliau o fonitro'r wybodaeth a ddarperir gan staff yn eich maes cyfrifoldeb chi
- Y sgiliau sy'n ofynnol i roi goruchwyliaeth effeithiol i staff sy'n gweinyddu cynnyrch a gwasanaethau ariannol
- Canllawiau eich sefydliad ar gyfer delio â thrafodion amheus neu afreolaidd
- Y camau gweithredu priodol sydd i'w cymryd pan fydd dogfennaeth yn anghywir neu'n anghyflawn
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer monitro ac addasu cofnodion cwsmeriaid
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn chwilio am ffyrdd mwy effeithlon o weithio
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd
- Rydych yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol dim ond i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn
- Rydych yn neilltuo amser i gefnogi eraill
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPBA07
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Monitro; ymholiadau; gwybodaeth; cyfrifoldeb; cam gweithredu adferol; dogfennaeth; arddulliau cyfathrebu; gwaith tîm