Rheoli gwasanaethau cownter mewn cangen
URN: FSPBA06
Sectorau Busnes (Suites): Cyfrifon Banc
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli darpariaeth effeithiol o ran gwasanaethau cownter mewn cangen. Bydd angen i chi sicrhau paratoad priodol ar gyfer gwasanaethau cownter a'u cau, yn ogystal â darparu'r cyfryw wasanaethau'n effeithiol. Elfen hollbwysig o'ch gwaith fydd monitro, datrys problemau a sgiliau trefniadol, yr angen am gywirdeb a sicrhau bod gweithdrefnau'n cael eu dilyn. Byddwch yn gyfrifol am eraill sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau cownter - er enghraifft, gallwch fod yn oruchwyliwr cownter neu'n arweinydd tîm. Bydd angen hefyd i chi ymfalchïo mewn darparu gwaith o safon uchel.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cadarnhau bod cownteri wedi cael eu paratoi a'u gosod ar gyfer gwasanaeth yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Monitro gweithgarwch y cownter i sicrhau bod anghenion y cwsmer yn cael eu diwallu, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Datrys gwallau a nodwyd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod gweithgarwch y cownter a'r ddogfennaeth yn cydymffurfio â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cynnal lefelau arian parod yn y tiliau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymdrin â thrafodion amheus neu anarferol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadarnhau bod cownteri wedi cau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Delio gydag anghysondebau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cwblhau dogfennaeth yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi risgiau posibl, gan gynnwys risgiau gwyngalchu arian, yn unol â gofynion eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y sgiliau sy'n ofynnol i roi goruchwyliaeth effeithiol i staff sy'n darparu gwasanaeth cownter
- Canllawiau eich sefydliad o ran lefelau arian parod mewn tiliau
- Terfynau eich awdurdod chi, a'ch tîm, wrth ddelio gyda chwsmeriaid
- Gweithdrefnau diogelu sy'n berthnasol i'ch maes gwaith
- Gofynion eich sefydliad o ran gweithdrefnau a dogfennaeth wrth baratoi a defnyddio til
- Y gweithdrefnau cywiro cymeradwy ar gyfer datrys gwallau
- Gweithdrefnau oddi ar-lein ac ar alwad eich sefydliad
- Nodweddion allweddol y cynnyrch a'r gwasanaethau y gellid eu cynnig neu y gallai staff y cownter gyfeirio atynt
- Sut mae ymdrin â thrafodion amheus a nodwyd gan arianwyr, i gynnwys: tynnu arian allan heb awdurdod, amheuon bod dogfennau wedi'u ffugio, arian yr amheuir ei fod yn ffug, gwyngalchu arian
- Gweithdrefnau olrhain gwallau eich sefydliad
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
- Rydych yn neilltuo amser i gefnogi eraill
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPBA06
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Gwallau; gweithdrefnau; dogfennaeth; lefelau arian parod; trafodion amheus; anghysondebau; risgiau; gwyngalchu arian; goruchwyliaeth; gwaith tîm; awdurdod; diogeledd; tynnu allan