Defnyddio til sy'n cynnwys sawl arian cyfredol
URN: FSPBA05
Sectorau Busnes (Suites): Cyfrifon Banc
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi, defnyddio a chau til cownter sy'n delio gyda mwy nag un math o arian cyfredol. Os byddwch chi'n delio gyda sterling yn unig, dylech chi ystyried uned BA4 Defnyddio til cownter sterling yn lle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gosod eich terfynell gyfrifiadurol neu gyfarpar llaw a'u cau i lawr yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadarnhau bod lefelau'r arian parod yn eich til yn cadw at ganllawiau eich sefydliad
- Adnabod a datrys gwallau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyflawni trafodion cownter, gan wirio pwy yw'r cwsmer a'i statws ariannol yn unol â gofynion eich sefydliad
- Nodi trafodion y codir tâl amdanynt a chymhwyso'r taliadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Darparu arian parod mewn gwerthoedd sy'n ymateb i anghenion eich cwsmer a'ch sefydliad
- Cynnal lefelau priodol o arian parod yn eich til, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi trafodion amheus neu afreolaidd a chymryd camau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cau a chysoni eich til yn gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Olrhain unrhyw wallau a chymryd camau i'w hunioni, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cwblhau dogfennaeth yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cymhwyso mesurau diogelu cymeradwy wrth y cownter, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi risgiau posibl, gan gynnwys risgiau gwyngalchu arian, yn unol â gofynion eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y terfynau o ran lefelau arian parod, a'r gweithdrefnau ar gyfer eu cynnal
- Y gweithdrefnau ar gyfer agor, defnyddio, a chau eich til
- Y gofynion o ran deunydd hyrwyddo ar y cownter yn ardal eich til, a'ch lefelau eich hunain o gyfrifoldeb ar gyfer eu cyflawni
- Y gweithdrefnau cywiro cymeradwy ar gyfer datrys gwallau
- Nodweddion y cynnyrch a'r gwasanaethau a gynigir gan eich sefydliad
- Gweithdrefnau oddi ar-lein ac ar alwad eich sefydliad
- Gofynion eich sefydliad o ran sut mae delio gydag achosion posibl o wyngalchu arian a chynnal diogelu data
- Cyfraddau prynu a gwerthu eich sefydliad ar gyfer y mathau o arian cyfredol yr ydych yn eu trafod
- Ffynonellau gwybodaeth ynghylch trafodion tramor
- Y taliadau mae eich sefydliad yn eu codi am drafodion tramor
- Y mathau o arian tramor sy'n ofynnol ar gyfer gwahanol ddynodiadau sy'n berthnasol i'ch maes cyfrifoldeb
- Mathau nodweddiadol o drafodion amheus neu afreolaidd, a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer eu trafod
- Gofynion dogfennaeth eich sefydliad a'r gweithdrefnau cysylltiedig ar gyfer cwblhau dogfennau o'r fath a'u hanfon ymlaen
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn rhoi perfformiad cyson a dibynadwy yn y gwaith
- Rydych yn ystyried pa effaith mae eich ymddygiad yn ei chael ar eraill
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPBA05
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Lefelau arian parod; gwallau; trafodion; statws ariannol; gwerth arian; diogeledd; gwyngalchu arian; diogelu data; taliadau a godir; cyfrifo; cyfraddau; arian cyfredol; dynodiadau