Awdurdodi trafodion ariannol gan ddefnyddio telathrebu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â derbyn taliadau gan gwsmeriaid dros y ffôn. Fwy na thebyg byddwch chi'n gweithio mewn canolfan alwadau neu safle gwasanaethau ariannol pellennig, ond efallai byddwch yn derbyn taliadau dros y ffôn fel rhan o'ch gwaith mewn lleoliad arall. Byddwch yn cymryd manylion y trafodion ac yn awdurdodi'r taliad yn ôl dewis ddull y cwsmer. Mae angen dilysu'r manylion a roddir i chi gan gwsmeriaid a chyfeirio materion at eich rheolwr llinell mewn achosion lle mae anhawster. Bydd disgwyl bob amser i chi fod yn wyliadwrus rhag gweithgarwch twyllodrus. Bydd rhaid cofnodi manylion trafodion yn gywir a'u trosglwyddo i'r bobl berthnasol. Mae'n ofynnol eich bod chi'n gwrtais i gwsmeriaid ac yn rhoi sylw i'w hanghenion cyfathrebu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Casglu'r holl fanylion angenrheidiol i fedru prosesu trafodion yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod yr wybodaeth a roddwyd gan gwsmeriaid yn gywir ac wedi'i dilysu
- Cyfeirio pob problem sydd y tu allan i'ch awdurdod i'ch rheolwr llinell yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cymharu manylion trafodion â meini prawf awdurdodi eich sefydliad
- Ceisio gwybodaeth bellach lle ceir hyd i anghysondebau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Hysbysu cwsmeriaid ynghylch canlyniadau gweithdrefnau awdurdodi
- Cadarnhau trafodion gyda chwsmeriaid pan fydd y meini prawf awdurdodi wedi cael eu bodloni
- Dilyn gweithdrefnau sefydliadol pan na ellir cymeradwyo trafodion
- Adnabod a rhoi gwybod am amheuon ynghylch gweithgaredd twyllodrus i'r awdurdod priodol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cofnodi holl fanylion trafodion yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi risgiau posibl, gan gynnwys unrhyw weithgaredd twyllodrus yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y manylion sy'n ofynnol er mwyn prosesu trafodion
- Y gweithdrefnau dilysu ac awdurdodi sy'n berthnasol i drafodion
- Y codau ymarfer sy'n gysylltiedig ag awdurdodi trafodion
- Y bobl y dylid trosglwyddo gwybodaeth iddynt, gan gynnwys trafodion trafferthus neu amheuon ynghylch gweithgaredd twyllodrus
- Sut mae sefydlu perthnasoedd cynhyrchiol gyda chwsmeriaid ffôn, gan gynnwys delio gyda chwsmeriaid sy'n amharod i gydweithredu, yn ddig, neu'n sarhaus
- Diben gwirio a dilysu gwybodaeth a ddarperir gan gwsmeriaid
- Sut mae cwestiynu galwyr ynghylch manylion trafodion, gan gynnwys rhoi sylw i anghenion amrywiol cwsmeriaid unigol
- Gweithdrefnau ar gyfer atgyfeirio materion i'ch rheolwr llinell
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn esbonio pethau fel bod eraill yn deall
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd