Sefydlu, monitro a chynnal cyfrifon banc i gwsmeriaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sefydlu cyfrifon banc ar gyfer cwsmeriaid a monitro perfformiad y cyfrif. Mae'r uned hon yn cwmpasu amrywiaeth o gyfrifon, gan gynnwys cyfrifon cynilo, cyfrifon cyfredol a chyfrifon buddsoddi. Bydd angen i chi gasglu a choladu'r dogfennau angenrheidiol cyn bod modd cynnig cyfleusterau cyfrifon i'r cwsmer. Byddwch hefyd yn gorfod awdurdodi cyflwyno unrhyw ddogfennaeth a chyfleusterau cysylltiedig â chyfrifon. Mae disgwyl i chi roi gwybod i gwsmeriaid am y cyfleusterau sy'n cyd-fynd â'u cyfrif, naill ai cyfleusterau safonol neu gyfleusterau wedi'u teilwra neu eu cytuno'n arbennig. Ar gyfer y safon hon, bydd rhaid i chi fonitro cyfrifon eich cwsmeriaid yn ogystal. Mae hyn yn cynnwys achlysuron pryd y gall cwsmer fynd dros ben terfyn credyd neu fethu â chynnal taliadau, a hefyd pan fo gwarged cwsmer yn ymddangos yn amhriodol ar gyfer eu dewis o gyfrif. Mewn achosion o'r fath, mae disgwyl i chi ddarparu cyngor i gwsmeriaid ynghylch sicrhau'r enillion optimwm am eu harian; fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys cyngor ariannol. Gall fod achosion lle mae monitro cyfrifon yn datgelu achosion o dwyll neu wyngalchu arian.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sefydlu a monitro cofnodion cyfrifon cwsmeriaid a'u storio'n ddiogel, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Adnabod ac ymchwilio i unrhyw anghysondebau neu elfennau nad ydynt yn cyfateb yng nghofnodion eich cwsmer
- Cywiro unrhyw wallau, anghysondebau neu elfennau nad ydynt yn cyfateb yng nghofnodion eich cwsmer
- Awdurdodi adrannau perthnasol i gyflwyno dogfennaeth cyfrifon a chyfleusterau i gwsmeriaid, yn unol â'r cytundebau a wnaed gyda nhw
- Cadarnhau bod nodweddion cyfrifon yn ymateb i ofynion eich cwsmer
- Rhoi gweithdrefnau diogelu ar waith sy'n amddiffyn cwsmeriaid a buddiannau eich sefydliad
- Darparu gwybodaeth am gyfrifon i gwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Trosglwyddo cyllid i mewn ac allan o gyfrifon, yn unol â chyfarwyddiadau'r cwsmer, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadarnhau dilysrwydd manylion cyfrif a throsglwyddo cyfarwyddiadau cyn trosglwyddo cyllid yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Hysbysu cwsmeriaid os nad oes ganddynt gyllid digonol i drafodion fedru digwydd
- Awdurdodi, gwrthod neu drosglwyddo i'r awdurdod priodol geisiadau am estyn cyfleusterau cyfrif, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Monitro ac ymchwilio i weithgarwch a pherfformiad cyfrifon lle mae cwsmeriaid wedi methu â chynnal taliadau neu wedi mynd y tu hwnt i'r cyfleusterau y cytunwyd arnynt
- Cytuno ar adnewyddu, neu ailwerthuso cyfleusterau gyda chwsmeriaid, a'u cadarnhau yn ysgrifenedig
- Rhoi gwybod i gwsmeriaid am gyfleusterau newydd neu well sy'n fwy addas ar gyfer eu gofynion
- Gofyn i gwsmeriaid gadw mewn cysylltiad â'ch sefydliad os byddant yn cael trafferth cadw at drefniadau neu os bydd angen cymorth arnynt
- Ymchwilio i wargedau a throsglwyddiadau anghyffredin, a lle bo angen, eu cyfeirio at awdurdod perthnasol
- Nodi risgiau posibl, gan gynnwys risgiau gwyngalchu arian, yn unol â gofynion eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y cyfleusterau cyfrifon sydd ar gael ac y gallwch chi eu hawdurdodi
- Rhwymedigaethau a gofynion statudol, rheoliadol a sefydliadol ar gyfer delio gyda chyfrifon cwsmeriaid
- Gweithdrefnau diogelu eich sefydliad a'r cofnodion y mae angen eu cadw
- Sut mae datrys ymholiadau a chwynion yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Sut mae adnabod ac ymchwilio i wallau, anghysondebau ac elfennau nad ydynt yn cyfateb yng nghofnodion cwsmeriaid
- Sut mae cadarnhau bod cwsmeriaid yn fodlon ar y cyfleusterau
- Sut mae adnabod anghenion cwsmeriaid am wybodaeth
- Pwysigrwydd cynnal diogeledd a chyfrinachedd
- Y gwahanol fathau o gyfarwyddiadau trosglwyddo a sut mae eu cyflawni
- Sut mae penderfynu a ddylid estyn cyfleusterau neu beidio er mwyn caniatáu i drafodion ddigwydd
- At bwy y dylech chi gyfeirio ceisiadau am estyn cyfleusterau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Sut gallwch chi gynorthwyo cwsmeriaid a all gael anhawster cadw at drefniadau
- Gweithdrefnau delio ag achosion o wargedau a throsglwyddiadau anghyffredin
- Diben monitro cyfrifon
- Gwerth cadw mewn cysylltiad â'r sefydliad i gwsmeriaid
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno ac yn esbonio pethau fel bod eraill yn gallu deall
- rydych yn nodi anghenion gwybodaeth pobl eraill yn effeithiol
- rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd
- rydych yn dangos dealltwriaeth glir o wahanol gwsmeriaid a'u hanghenion ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- rydych yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol dim ond i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn