Sefydlu cyfrifon banc ar gyfer cwsmeriaid
URN: FSPBA01
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cyfrifon Banc
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r broses o sefydlu cyfrifon banc ar gyfer cwsmeriaid newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli. Bydd angen i chi gwblhau'r broses o sefydlu cyfrifon unigol o'r ymholiad cychwynnol, gan ganfod gofynion y cwsmer, cynnal y gwiriadau diogeledd angenrheidiol, sefydlu neu addasu'r trefniadau talu priodol, a sicrhau awdurdod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Casglu a chofnodi holl fanylion y cwsmer a'r ddogfennaeth sy'n ofynnol ar gyfer cyfrifon, yn unol â gofynion eich sefydliad
- Esbonio nodweddion a thelerau ac amodau cyfrifon i gwsmeriaid a chadarnhau eu bod yn eu deall
- Ateb cwestiynau mae cwsmeriaid yn eu codi yn unol â gofynion eich sefydliad
- Cyfeirio at bobl briodol unrhyw ymholiadau cwsmeriaid sydd y tu allan i'ch awdurdod, yn unol â gofynion eich sefydliad
- Cytuno ar drefniadau diogelu ar gyfer datgelu gwybodaeth ynghylch cyfrifon, yn unol â gofynion eich sefydliad
- Casglu'r holl dystlythyron angenrheidiol a chwblhau'r gwiriadau perthnasol cyn agor cyfrifon, yn unol â gofynion eich sefydliad
- Cadarnhau bod nodweddion cyfrifon yn ymateb i ofynion y cwsmer
- Anfon gwybodaeth at y bobl briodol fel bod modd agor cyfrifon yn unol â gofynion eich sefydliad
- Paratoi trefniadau talu yn unol â chyfarwyddiadau'r cwsmer
- Sefydlu terfynau credyd ac esbonio'r cosbau am fynd drostynt, yn unol â gofynion eich sefydliad
- Nodi risgiau posibl, gan gynnwys risgiau gwyngalchu arian, yn unol â gofynion eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut mae cynnal cyfarfodydd a chyswllt arall â chwsmeriaid er mwyn cynnal ewyllys da a chyflwyno delwedd gadarnhaol o'ch sefydliad
- Gwahanol nodweddion, telerau ac amodau'r cynnyrch, y gwasanaethau a'r cyfrifon mae gennych chi awdurdod i'w hyrwyddo
- Sut mae adnabod gweithgarwch amheus, gan gynnwys achosion posibl o wyngalchu arian, wrth sefydlu cyfrifon, ac at bwy dylech chi gyfeirio amheuon
- Terfynau eich cyfrifoldeb a'r bobl y dylech gyfeirio cwsmeriaid atynt os bydd arnynt angen nodweddion neu gyfrifon sydd y tu hwnt i'ch awdurdod
- Manylion y cwsmer sy'n ofynnol ar gyfer gwahanol gynnyrch a gwasanaethau
- Sut mae cadarnhau dealltwriaeth eich cwsmeriaid o gynnyrch neu wasanaethau rydych chi'n eu hyrwyddo
- Yr awdurdodi sy'n ofynnol er mwyn agor cyfrifon
- Sut mae sicrhau bod nodweddion cyfrif yn bodloni gofynion eich cwsmer
- Sut mae datrys achosion lle mae cwsmeriaid yn anfodlon ar y nodweddion a gynigir
- Y tystlythyron a'r gwiriadau sy'n ofynnol cyn agor cyfrif
- Sut mae sefydlu a newid trefniadau debyd uniongyrchol ac archebion sefydlog
- Sut mae sefydlu trefniadau awdurdodi ar gyfer taliadau
- Yr amodau sy'n berthnasol i drefniadau talu
- Y cosbau am fynd dros ben terfynau credyd
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn esbonio pethau fel bod eraill yn deall
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd
- Rydych yn dangos dealltwriaeth glir o wahanol gwsmeriaid a'u hanghenion
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPBA01
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
manylion y cwsmer; dogfennaeth; nodweddion; telerau ac amodau; tystlythyron; gwiriadau; terfyn credyd; terfyn cyfrifoldeb; awdurdodi; trefniadau talu; cosbau