Cwblhau adroddiadau ar gyfer cleientiaid morgeisi neu gynllunio ariannol

URN: FSPAMFPI06
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddiaeth ar gyfer Cyfryngwyr Morgeisi a/neu Gynllunio Ariannol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chwblhau adroddiadau cymhleth eu natur yn gywir, a mynd ati'n rhagweithiol i baratoi prisiadau a llythyrau addasrwydd yn unol â gofynion y cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi. Mae hyn yn golygu sefydlu eich meysydd cyfrifoldeb, ac wedyn cynllunio a nodi'r wybodaeth gymhleth berthnasol a fydd yn eich galluogi i gwblhau'r adroddiad. Rhaid i chi fedru ychwanegu at yr adroddiadau gyda dogfennau a llenyddiaeth ategol, a sicrhau bod gwybodaeth am gleientiaid yn cael ei storio a'i hadalw yn unol â gofynion eich sefydliad. Bydd angen i chi fod yn drefnus ac yn systematig yn eich agwedd at waith a sicrhau bod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch anghenion gwybodaeth cydweithwyr a chwilio am ffyrdd i'w cynorthwyo. Bydd angen hefyd i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cytuno ar eich cyfraniad i baratoi adroddiadau cyflawn gyda'r cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi
  2. Cynllunio'r wybodaeth y bydd arnoch ei hangen ar gyfer adroddiadau gan ddefnyddio ffynonellau priodol sydd wedi'u diweddaru
  3. Nodi'r wybodaeth y bydd arnoch ei hangen ar gyfer adroddiadau gan ddefnyddio ffynonellau priodol sydd wedi'u diweddaru
  4. Nodi cynnwys perthnasol o wybodaeth a gawsoch i'ch galluogi i gwblhau adroddiadau
  5. Cwblhau adroddiadau yn unol â'ch cynllun a gofynion eich sefydliad
  6. Ychwanegu at adroddiadau i gleientiaid â dogfennau a llenyddiaeth ategol priodol
  7. Cynhyrchu prisiadau cleientiaid yn unol â gofynion y cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi
  8. Cadarnhau bod adroddiadau neu brisiadau a gwblhawyd wedi'u gwirio a'u hawdurdodi gan y cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi
  9. Gwirio bod cofnodion cyfrinachol yn cael eu storio a'u hadalw yn unol â gofynion eich sefydliad
  10. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y mathau o adroddiadau morgeisi a chynllunio ariannol a gynhyrchir gan eich sefydliad
  2. Y mathau o wybodaeth sydd ar gael i chi ar gyfer adroddiadau, a ble mae cael hyd i'r wybodaeth honno
  3. Pwysigrwydd cynllunio'r gwaith o lunio adroddiadau a nodi pa wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer adroddiadau ac fel tystiolaeth ategol
  4. Systemau a phrotocolau eich sefydliad ar gyfer ysgrifennu adroddiadau
  5. Y mathau o ddogfennau a llenyddiaeth ategol sy'n ofynnol i gyd-fynd ag adroddiadau
  6. Sut mae paratoi prisiadau fel sy'n ofynnol gan eich sefydliad
  7. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer storio ac adalw cofnodion cyfrinachol
  8. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
  9. Y fframwaith rheoliadol y mae eich sefydliad yn gweithredu oddi mewn iddo

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn broffesiynol ac yn gwrtais wrth ddelio gyda chleientiaid yn ogystal â chydweithwyr
  2. Rydych yn cadw gwybodaeth gyfrinachol yn ddiogel bob amser
  3. Rydych yn chwilio am ffyrdd o ddatrys problemau cymhleth
  4. Rydych yn cefnogi eraill i gyflawni amcanion cyffredin
  5. Rydych yn ymfalchïo mewn cyflawni gwaith o ansawdd uchel
  6. Rydych yn cyfeirio at gydweithwyr priodol, neu weithdrefnau eich sefydliad, os byddwch mewn amheuaeth

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPAMFPI06

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cynnyrch ariannol; dyfynbrisiau; morgais; anfonebu; talu; prisiadau cleientiaid; swyddfa gefn; adroddiadau cleientiaid; systemau gweinyddol