Prosesu cyfarwyddiadau ar gyfer busnes morgeisi neu gynllunio ariannol cymhleth
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu cyfarwyddiadau ar gyfer busnes morgeisi neu gynllunio ariannol cymhleth. Rhaid i chi allu prosesu'n gywir ac yn effeithlon geisiadau'r cleient am gynnyrch morgeisi neu gynllunio ariannol cymhleth unwaith y cytunwyd ar y rhain gyda'r cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi. Mae hyn yn cynnwys canfod pa addasiadau byddai'r cleient yn hoffi eu gwneud, a chasglu gwybodaeth gywir a digonol yn sylfaen ar gyfer y gwahanol agweddau ar ofynion y cleient. Rhaid i chi fedru cyfeirio ceisiadau at bobl briodol a monitro cynnydd yr amrywiol ofynion hyd at eu cwblhau a thalu amdanynt. Yn olaf, mae'n rhaid i chi hefyd fedru defnyddio eich gwybodaeth arbenigol i sicrhau bod y datblygiad trwy amrywiol gymhlethdodau'r addasiadau yn digwydd yn effeithlon. Bydd angen i chi fod yn drefnus ac yn systematig yn eich agwedd at waith a sicrhau bod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch anghenion gwybodaeth cydweithwyr a chwilio am ffyrdd i'w cynorthwyo.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cyflawni adolygiad technegol o'r cyfarwyddiadau ynghylch ceisiadau cleientiaid, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Nodi'r darparwyr sy'n ymwneud â'r cyfarwyddiadau yn ogystal ag unrhyw faterion y mae angen eu datrys yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Paratoi a chyflwyno cyfarwyddiadau i ddarparwyr cynnyrch, yn unol â gweithdrefnau ac amserlenni eich sefydliad
- Ceisio eglurhad neu wybodaeth ategol gan gleientiaid i gefnogi eu cais
- Cyfeirio ceisiadau sydd y tu allan i'ch maes cyfrifoldeb at y cydweithwyr priodol
- Monitro cynnydd ceisiadau ynghylch cynnyrch morgeisi neu gynllunio ariannol gyda'r bobl berthnasol
- Hysbysu'r bobl berthnasol ynghylch unrhyw oedi yng nghyswllt cynnyrch morgeisi neu gynllunio ariannol
- Paratoi anfonebau sy'n cynnwys manylion yr holl gynnyrch a gwasanaethau y codir tâl amdanynt a'u hanfon allan at gleientiaid
- Prosesu taliadau yng nghyswllt y cynnyrch morgeisi neu gynllunio ariannol y gwnaed cais amdanynt
- Gwirio dogfennau a dderbyniwyd gan ddarparwr y cynnyrch i sicrhau eu bod yn cyflawni ceisiadau cleientiaid
- Cyflwyno dogfennau a dderbyniwyd gan ddarparwyr cynnyrch i gleientiaid yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cynnal cofnodion wedi eu diweddaru, yn unol â gofynion eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr ystod o gynnyrch morgeisi neu gynllunio ariannol a gynigir gan eich sefydliad
- Y mathau o addasiadau y gellir eu gwneud i gynnyrch morgeisi neu gynllunio ariannol
- Yr wybodaeth sy'n ofynnol gan gleientiaid er mwyn gwneud cynnydd yng nghyswllt eu cais ynghylch cynnyrch morgeisi neu gynllunio ariannol
- Pwysigrwydd cynnal adolygiad technegol llawn o'r gwahanol agweddau ar geisiadau cleientiaid
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer atgyfeirio ceisiadau cleientiaid a gwybodaeth ategol
- Gweithdrefnau ac amserlenni eich sefydliad ar gyfer monitro ceisiadau sy'n ymwneud â chynnyrch morgeisi neu gynllunio ariannol
- Ffynonellau sydd ar gael i chi ar gyfer gwybodaeth ac arweiniad pellach
- Y camau y mae'n ofynnol eich bod yn eu cymryd yng nghyswllt oedi ac anghysondebau a nodir gennych
- Yr angen am wirio dogfennau'n drylwyr er mwyn sicrhau bod pob agwedd ar ofynion cleient yn derbyn sylw
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer prosesu taliadau
- Y mathau o ddogfennau mae'n ofynnol eich bod yn eu cyflwyno i'r cleient
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi a storio gwybodaeth
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
- Y fframwaith rheoliadol y mae eich sefydliad yn gweithredu oddi mewn iddo
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn broffesiynol ac yn gwrtais wrth ddelio gyda chleientiaid yn ogystal â chydweithwyr
- Rydych yn cadw gwybodaeth gyfrinachol yn ddiogel bob amser
- Rydych yn chwilio am ffyrdd o ddatrys problemau cymhleth
- Rydych yn cefnogi eraill i gyflawni amcanion cyffredin
- Rydych yn ymfalchïo mewn cyflawni gwaith o ansawdd uchel
- Rydych yn cyfeirio at gydweithwyr priodol, neu weithdrefnau eich sefydliad, os byddwch mewn amheuaeth