Hwyluso gwasanaeth gweinyddol ar gyfer cleientiaid morgeisi neu gynllunio ariannol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â hwyluso gwasanaeth gweinyddol ar gyfer cleientiaid morgeisi neu gynllunio ariannol. Rhaid i chi fedru delio gyda chleientiaid yn ogystal â chydweithwyr mewnol, p'un a ydych chi'n ymateb i geisiadau cymhleth neu'n chwilio am wybodaeth newydd. Rhaid i chi fedru coladu'r wybodaeth angenrheidiol gan y cleient er mwyn medru trafod atebion priodol o ran morgeisi neu gynllunio ariannol, a pharatoi dogfennau i'w defnyddio gan y cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi. Rhaid i chi fedru defnyddio gwybodaeth am lif busnes er mwyn canfod blaenoriaethau ar gyfer gweithredu pellach, dilysu'r apwyntiadau yn y dyddiadur, a rhoi systemau gweinyddiaeth swyddfa gywir ar waith. Bydd angen i chi fod yn drefnus ac yn systematig yn eich agwedd at waith a sicrhau bod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch anghenion gwybodaeth cydweithwyr a chwilio am ffyrdd i'w cynorthwyo. Bydd angen hefyd i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Delio gyda cheisiadau cymhleth am wybodaeth gan gleientiaid, a chydweithwyr, oddi mewn i'ch lefel o awdurdod
- Nodi ceisiadau am wybodaeth ynghylch cynnyrch a gwasanaethau ariannol y tu allan i'ch maes cyfrifoldeb
- Cyfeirio materion sydd y tu allan i'ch maes cyfrifoldeb at gydweithwyr priodol
- Coladu'r wybodaeth sy'n ddigonol i baratoi dyfynbrisiau a darluniadau
- Sicrhau dyfynbrisiau a darluniadau i ddiwallu anghenion cleientiaid ac oddi mewn i derfynau eich awdurdod, mewn modd sy'n cydymffurfio â gofynion eich sefydliad
- Paratoi'r wybodaeth angenrheidiol i'w defnyddio yn ystod cyfarfodydd â chleientiaid
- Paratoi gwybodaeth ar gyfer cleientiaid sy'n glir ac yn berthnasol i'w hanghenion
- Monitro llif busnes a nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu pellach
- Monitro apwyntiadau yn y dyddiadur, a nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu pellach
- Gweithredu a chynnal systemau gweinyddiaeth swyddfa
- Cynnal cofnodion wedi eu diweddaru, yn unol â gofynion eich sefydliad
- Cadarnhau eich dealltwriaeth o flaenoriaethau busnes cyfredol trwy gadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi a chydweithwyr priodol
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio gyda busnes newydd
- Terfynau eich awdurdod a'r cynnyrch a'r gwasanaethau y mae gennych awdurdod i'w trafod
- Yr wybodaeth sy'n ofynnol i baratoi dyfynbrisiau a darluniadau cymhleth
- Sut mae sicrhau dyfynbrisiau a darluniadau cymhleth
- Y camau y mae angen eu cymryd pan fo angen rhagor o wybodaeth
- Y mathau o ddogfennau sy'n ofynnol gan y cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi fel rhan o gyfarfod â chleient
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer monitro llif busnes, sut mae dehongli'r wybodaeth hon, a'r camau y mae'n ofynnol i chi eu cymryd
- Sut mae monitro addasrwydd apwyntiadau yn nyddiadur y cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi, a'r camau gweithredu mae angen i chi eu cymryd
- Sut mae gweithredu a chynnal systemau gweinyddiaeth swyddfa cywir
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi a storio gwybodaeth
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
- Y fframwaith rheoliadol y mae eich sefydliad yn gweithredu oddi mewn iddo
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn broffesiynol ac yn gwrtais wrth ddelio gyda chleientiaid yn ogystal â chydweithwyr
- Rydych yn cadw gwybodaeth gyfrinachol yn ddiogel bob amser
- Rydych yn chwilio am ffyrdd o ddatrys problemau cymhleth
- Rydych yn cefnogi eraill i gyflawni amcanion cyffredin
- Rydych yn ymfalchïo mewn cyflawni gwaith o ansawdd uchel
- Rydych yn cyfeirio at gydweithwyr priodol, neu weithdrefnau eich sefydliad, os byddwch mewn amheuaeth