Cyfrannu at adroddiadau ar gyfer cleientiaid morgeisi neu gynllunio ariannol
URN: FSPAMFPI03
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddiaeth ar gyfer Cyfryngwyr Morgeisi a/neu Gynllunio Ariannol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at baratoi adroddiadau, gan gynnwys prisiadau a llythyrau addasrwydd, ar gyfer cleientiaid morgeisi neu gynllunio ariannol. Mae hyn yn golygu sefydlu eich meysydd cyfrifoldeb, ac wedyn nodi a chasglu'r wybodaeth sy'n ofynnol i'ch galluogi i greu cynnwys yr adroddiad. Rhaid i chi fedru ychwanegu at yr adroddiadau gyda dogfennau a llenyddiaeth ategol, a sicrhau bod gwybodaeth am gleientiaid yn cael ei storio a'i hadalw yn unol â gofynion eich sefydliad. Bydd angen i chi fod yn drefnus ac yn systematig yn eich agwedd at waith a sicrhau bod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch anghenion gwybodaeth cydweithwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cytuno ar eich cyfraniad i baratoi adroddiadau gyda'r cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi
- Nodi'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer adroddiadau gan ddefnyddio ffynonellau priodol sydd wedi'u diweddaru
- Creu'r cynnwys ar gyfer adroddiadau o'r wybodaeth a gawsoch, yn unol â gofynion eich sefydliad
- Creu adroddiadau yn unol â gofynion eich sefydliad
- Ychwanegu at adroddiadau â dogfennau a llenyddiaeth ategol priodol
- Cynorthwyo'r cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi i gynhyrchu a chyflwyno prisiadau cleientiaid
- Cadarnhau bod adroddiadau neu brisiadau a gwblhawyd wedi'u gwirio a'u hawdurdodi gan y cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi
- Gwirio bod cofnodion cyfrinachol yn cael eu storio a'u hadalw yn unol â gofynion eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y mathau o adroddiadau morgeisi a chynllunio ariannol a gynhyrchir gan eich sefydliad
- Y mathau o wybodaeth sydd ar gael i chi ar gyfer yr adroddiad, a ble mae cael hyd i'r wybodaeth honno
- Systemau a phrotocolau eich sefydliad ar gyfer ysgrifennu adroddiadau
- Y mathau o ddogfennau a llenyddiaeth ategol sy'n ofynnol i gyd-fynd ag adroddiadau
- Sut mae paratoi prisiadau fel sy'n ofynnol gan eich sefydliad
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer storio ac adalw cofnodion cyfrinachol
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
- Y fframwaith rheoliadol y mae eich sefydliad yn gweithredu oddi mewn iddo
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn broffesiynol ac yn gwrtais wrth ddelio gyda chleientiaid yn ogystal â chydweithwyr
- Rydych yn cadw gwybodaeth gyfrinachol yn ddiogel bob amser
- Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPAMFPI03
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cynnyrch ariannol; dyfynbrisiau; morgais; anfonebu; talu; prisiadau cleientiaid; swyddfa gefn; adroddiadau cleientiaid; systemau gweinyddol