Prosesu cyfarwyddiadau ar gyfer busnes morgeisi neu gynllunio ariannol uniongyrchol

URN: FSPAMFPI02
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddiaeth ar gyfer Cyfryngwyr Morgeisi a/neu Gynllunio Ariannol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu cyfarwyddiadau ar gyfer busnes morgeisi neu gynllunio ariannol uniongyrchol. Rhaid i chi allu prosesu'n gywir ac yn effeithlon geisiadau'r cleient am gynnyrch morgeisi neu gynllunio ariannol cymhleth unwaith y cytunwyd ar y rhain gyda'r cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi. Mae hyn yn cynnwys canfod pa addasiadau byddai'r cleient yn hoffi eu gwneud, a chasglu gwybodaeth gywir a digonol i gefnogi eu cais. Rhaid i chi fedru cyfeirio'r cais hwn at y person priodol a monitro cynnydd hyd at ei gwblhau a thalu amdano. Rhaid i chi hefyd fedru cymryd camau mewn ymateb i unrhyw anghysondebau sy'n dod i'r amlwg a chynnal cofnodion cywir wedi'u diweddaru. Bydd angen i chi fod yn drefnus ac yn systematig yn eich agwedd at waith a sicrhau bod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch anghenion gwybodaeth cydweithwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cyflwyno cyfarwyddiadau cysylltiedig â chais y cleient i ddarparwr y cynnyrch, yn unol â gweithdrefnau ac amserlenni eich sefydliad
  2. Ceisio eglurhad neu wybodaeth ategol gan gleientiaid i gefnogi eu cais, lle bo gofyn
  3. Cyfeirio ceisiadau nad ydych wedi'ch awdurdodi i ddelio gyda nhw at y person neu'r adran sy'n briodol
  4. Monitro cynnydd ceisiadau sy'n ymwneud â chynnyrch morgeisi neu gynllunio ariannol gyda phartïon perthnasol, a rhoi gwybod i'r partïon dan sylw am unrhyw oedi
  5. Datrys unrhyw gwestiynau neu anghysondebau yn yr wybodaeth a roddwyd i ddarparwyr cynnyrch
  6. Paratoi anfonebau sy'n cynnwys manylion yr holl gynnyrch a gwasanaethau y codir tâl amdanynt a werthwyd i gleientiaid, i'w cyflwyno ar yr adeg briodol
  7. Prosesu taliadau yng nghyswllt y cynnyrch morgeisi neu gynllunio ariannol y gwnaed cais amdanynt
  8. Gwirio bod dogfennau a dderbyniwyd gan ddarparwr y cynnyrch yn gyflawn ac yn unol â gweithdrefnau ac amserlenni eich sefydliad
  9. Datrys unrhyw anghysondeb a nodwyd yn unol â gweithdrefnau ac amserlenni eich sefydliad
  10. Cyflwyno dogfennau a dderbyniwyd gan ddarparwr y cynnyrch i'r cleient yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  11. Cynnal cofnodion cywir ac wedi eu diweddaru, yn unol â gofynion eich sefydliad
  12. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y mathau o gynnyrch morgeisi neu gynllunio ariannol a gynigir gan eich sefydliad
  2. Y mathau o addasiadau y gellir eu gwneud i gynnyrch morgeisi neu gynllunio ariannol
  3. Yr wybodaeth sy'n ofynnol gan gleientiaid er mwyn gwneud cynnydd yng nghyswllt eu cais ynghylch cynnyrch morgeisi neu gynllunio ariannol
  4. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer atgyfeirio ceisiadau cleientiaid a gwybodaeth ategol
  5. Gweithdrefnau ac amserlenni eich sefydliad ar gyfer monitro ceisiadau sy'n ymwneud â chynnyrch morgeisi neu gynllunio ariannol
  6. Ffynonellau sydd ar gael i chi ar gyfer gwybodaeth ac arweiniad pellach
  7. Y camau y mae'n ofynnol eich bod yn eu cymryd yng nghyswllt oedi ac anghysondebau a nodir gennych
  8. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer prosesu taliadau
  9. Y mathau o ddogfennau mae'n ofynnol eich bod yn eu cyflwyno i'r cleient
  10. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi a storio gwybodaeth
  11. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
  12. Y fframwaith rheoliadol y mae eich sefydliad yn gweithredu oddi mewn iddo

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn broffesiynol ac yn gwrtais wrth ddelio gyda chleientiaid yn ogystal â chydweithwyr
  2. Rydych yn cadw gwybodaeth gyfrinachol yn ddiogel bob amser
  3. Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPAMFPI02

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cynnyrch ariannol; dyfynbrisiau; morgais; anfonebu; talu; prisiadau cleientiaid; swyddfa gefn; adroddiadau cleientiaid; systemau gweinyddol