Darparu gwasanaeth gweinyddol ar gyfer cleientiaid morgeisi neu gynllunio ariannol

URN: FSPAMFPI01
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddiaeth ar gyfer Cyfryngwyr Morgeisi a/neu Gynllunio Ariannol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaeth gweinyddol ar gyfer cleientiaid morgeisi neu gynllunio ariannol. Rhaid i chi fedru delio gyda chleientiaid yn ogystal â chydweithwyr mewnol, p'un a ydych chi'n ymateb i geisiadau cymhleth neu'n chwilio am wybodaeth newydd. Rhaid i chi fedru coladu'r wybodaeth angenrheidiol gan y cleient er mwyn medru trafod atebion priodol o ran morgeisi neu gynllunio ariannol, a pharatoi dogfennau i'w defnyddio gan y cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi. Rhaid i chi fedru monitro llif busnes, cynnal dyddiaduron a chyfrannu at ddyletswyddau gweinyddiaeth cyffredinol y swyddfa mewn modd effeithlon. Bydd angen i chi fod yn drefnus ac yn systematig yn eich agwedd at waith a sicrhau bod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch anghenion gwybodaeth cydweithwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Delio gyda cheisiadau uniongyrchol am wybodaeth a dderbynnir gan gleientiaid, a chydweithwyr mewnol, oddi mewn i lefel eich awdurdod
  2. Nodi ceisiadau am wybodaeth ynghylch cynnyrch a gwasanaethau ariannol y tu allan i'ch maes cyfrifoldeb  
  3. Cyfeirio materion sydd y tu allan i'ch maes cyfrifoldeb at gydweithwyr priodol
  4. Coladu'r wybodaeth sy'n ofynnol i baratoi dyfynbrisiau a darluniadau
  5. Sicrhau dyfynbrisiau a darluniadau oddi mewn i derfynau eich awdurdod, i ddiwallu anghenion y cleient a chydymffurfio â gofynion eich sefydliad
  6. Trosglwyddo manylion llawn i'r person perthnasol ar gyfer gweithredu lle bo angen rhagor o wybodaeth
  7. Paratoi'r holl wybodaeth angenrheidiol i gynorthwyo'r cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi ar gyfer cyfarfodydd â chleientiaid
  8. Paratoi gwybodaeth ar gyfer cleientiaid sy'n glir ac yn berthnasol i'w hanghenion
  9. Monitro llif busnes a chymryd camau priodol ynghylch eitemau sydd heb eu clirio
  10. Cadw dyddiaduron a gwneud apwyntiadau gyda chleientiaid yn ôl y gofyn
  11. Gwirio eich bod yn cyfrannu at ddyletswyddau gweinyddol cyffredinol y swyddfa, yn unol â rôl eich swydd
  12. Cynnal cofnodion wedi eu diweddaru, yn unol â gofynion eich sefydliad
  13. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio gyda busnes newydd
  2. Terfynau eich awdurdod a'r cynnyrch a'r gwasanaethau y mae gennych awdurdod i'w trafod
  3. Yr wybodaeth sy'n ofynnol i baratoi dyfynbrisiau uniongyrchol
  4. Sut mae sicrhau dyfynbrisiau a darluniadau uniongyrchol
  5. Y camau y mae angen eu cymryd pan fo angen rhagor o wybodaeth
  6. Y mathau o ddogfennau a gwybodaeth sy'n ofynnol gan y cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi fel rhan o gyfarfod â chleient
  7. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer monitro llif busnes, a'r camau y mae'n ofynnol i chi eu cymryd
  8. Gofynion y cynllunydd ariannol neu'r ymgynghorydd morgeisi o ran apwyntiadau, a sut mae trefnu apwyntiadau addas
  9. Systemau a gweithdrefnau gweinyddiaeth swyddfa eich sefydliad
  10. Prosesau a gweithdrefnau mewnol eich sefydliad ar gyfer cofnodi a storio gwybodaeth
  11. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
  12. Y fframwaith rheoliadol y mae eich sefydliad yn gweithredu oddi mewn iddo

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn broffesiynol ac yn gwrtais wrth ddelio gyda chleientiaid yn ogystal â chydweithwyr
  2. Rydych yn cadw gwybodaeth gyfrinachol yn ddiogel bob amser
  3. Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPAMFPI01

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cynnyrch ariannol; dyfynbrisiau; morgais; anfonebu; talu; prisiadau cleientiaid; swyddfa gefn; adroddiadau cleientiaid; systemau gweinyddol