Darparu gwybodaeth i gwsmeriaid mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol

URN: FINRFSGF1
Sectorau Busnes (Suites): Cyfrifon Banc
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud yn bennaf â'ch galluogi i ddelio gydag amrywiaeth o geisiadau gan gwsmeriaid ynghylch gwasanaethau ariannol; er enghraifft, mewn derbynfa (wyneb yn wyneb), neu dros y ffôn neu mewn gohebiaeth. Gallai ceisiadau o'r fath gynnwys gwybodaeth am gynnyrch newydd, neu addasu cynnyrch sydd eisoes yn bodoli neu wneud hawliad. Rhaid i'ch gwaith eich cynnwys yn uniongyrchol yn y broses o ddarparu gwybodaeth i gwsmeriaid mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cydnabod cwsmeriaid a'u trin mewn modd cwrtais, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Penderfynu beth sydd ar y cwsmer ei angen i ddiwallu ei anghenion gwybodaeth am gynnyrch neu wasanaethau ariannol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Trosglwyddo unrhyw geisiadau am wybodaeth ynghylch cynnyrch neu wasanaethau ariannol nad oes gennych awdurdod i ddelio gyda nhw i bobl awdurdodedig, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Darparu gwybodaeth i gwsmeriaid am gynnyrch neu wasanaethau ariannol sydd wedi'i diweddaru ac yn berthnasol i'w hanghenion, ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Cadw cofnod o wybodaeth a ddarperir am gynnyrch neu wasanaethau ariannol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Disgrifio i gwsmeriaid fanylion cynnyrch neu wasanaethau ariannol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Gwirio bod y cynnyrch neu'r gwasanaethau ariannol yn ddigonol i ymateb i anghenion cwsmeriaid
  8. Rhannu gwybodaeth gyfrinachol gyda'r bobl sydd ag awdurdod i'w derbyn, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad (gan gynnwys delio gyda chwynion)
  2. Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch cyfathrebu â chwsmeriaid
  3. Ffynonellau ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor ynghylch cynnyrch neu wasanaethau ariannol perthnasol fel rhan o rôl eich swydd
  4. Y gwahaniaeth rhwng darparu gwybodaeth a rhoi cyngor oddi mewn i rôl eich swydd
  5. y mathau o wybodaeth am gynnyrch neu wasanaethau ariannol y gallwch ei darparu oddi mewn i rôl eich swydd
  6. Sut mae cael mynediad i gofnodion cwsmeriaid
  7. Nodweddion, telerau ac amodau'r cynnyrch neu'r gwasanaethau ariannol yr ydych yn delio gyda nhw
  8. Terfynau eich awdurdod personol eich hun a'r camau sy'n ofynnol os bydd cais am wybodaeth ynghylch cynnyrch neu wasanaethau ariannol y tu hwnt i'r terfynau hynny
  9. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn nodi anghenion gwybodaeth pobl eraill yn effeithiol
  2. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth am gynnyrch neu wasanaethau ariannol yn eglur ac yn gryno
  3. Rydych yn annog cwsmeriaid i ofyn cwestiynau a cheisio eglurhad
  4. Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf y cwsmer
  5. Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
  6. Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPRFSGF1

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gwybodaeth; cwsmeriaid; derbynfa; ffôn; gohebiaeth; gwasanaethau ariannol; bancio; cymdeithasau adeiladu