Diheintio prif bibelli dŵr
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â diheintio prif bibelli dŵr neu bibelli dŵr eraill newydd neu sy’n bodoli eisoes, at ddibenion rhagofalus ac adweithiol. Mae’n cynnwys dewis diheintyddion a dulliau diheintio priodol, gwneud yn siŵr bod y rhan dan sylw wedi'i ynysu, diheintio pibelli a chael gwared â'r dŵr sydd wedi'i ddiheintio mewn ffordd sydd ddim yn effeithio ar yr amgylchedd.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n diheintio prif bibelli dŵr neu bibelli dŵr eraill at ddibenion rhagofalus ac adweithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cadarnhau pa ran o'r system sydd i gael ei diheintio a’r ffitiadau a'r dulliau diheintio i'w defnyddio, ar sail cyfarwyddiadau a gwybodaeth a gafwyd
2. dewis yr offer sy’n ofynnol ar gyfer y diheintydd fydd yn cael ei ddefnyddio
3. cadarnhau bod cyflwr yr offer a’r ffordd y mae wedi’i osod yn bodloni manylebau'r gwneuthurwr
4. cadarnhau bod digon o ddiheintydd wedi cael ei ychwanegu i greu'r crynodiad a ragnodwyd ar bob pwynt yn y system
5. gwneud yn siŵr bod y rhwydwaith yn cael ei ddiogelu er mwyn rhwystro unrhyw halogi
6. dilyn gweithdrefnau diheintio yn unol â gofynion y sefydliad
7. cael gwared â'r dŵr sydd wedi'i ddiheintio er mwyn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd, yn unol â gofynion rheoleiddiol a sefydliadol
8. datgymalu, glanhau a storio offer yn unol â gofynion y sefydliad
9. cymryd samplau priodol i gadarnhau effeithiolrwydd y drefn ddiheintio ar ansawdd y dŵr
10. cymryd camau priodol pan fyddwch yn canfod problemau
11. dilyn arferion hylendid a gweithio diogel yn unol â gweithdrefnau perthnasol a gofynion statudol a rheoleiddiol
12. hysbysu'r bobl berthnasol am fanylion y diheintio yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y rhesymau dros ddiheintio prif bibelli dŵr, sut mae halogi’n gallu digwydd a'r dulliau a ddefnyddir i osgoi halogi
dulliau diheintio a mathau o ddiheintyddion
sut a phryd mae defnyddio diheintyddion a'r peryglon sy'n gysylltiedig â nhw
- yr offer i'w ddefnyddio a sut mae ei osod
- beth sydd wedi'i gynnwys ym manylebau gwneuthurwyr o ran cyflwr offer a’i osod
- goblygiadau ynysu aneffeithiol a sut mae asesu cyfluniad falfiau er mwyn cadarnhau bod prif bibelli dŵr wedi'u hynysu
- problemau nodweddiadol a'ch cyfrifoldeb chi o ran delio â nhw
- gweithdrefnau hylendid a gweithio diogel yng nghyswllt trin, storio a defnyddio diheintyddion; hylendid personol; dadbwyseddu rhan o'r system; defnyddio cyfarpar diogelu personol; defnyddio cyfarpar ac offer llaw
- gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod i bobl am weithdrefnau diheintio
- sut mae diheintio prif bibelli dŵr
- dulliau o waredu dŵr clorin a'r difrod sy'n gallu cael ei achosi os bydd yn cael ei waredu’n anghywir
- defnyddio a storio offer mewn ffordd ddiogel a chywir
- gweithdrefnau profi
- paramedrau ansawdd dŵr