Glanhau prif bibelli dŵr
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â glanhau prif bibelli dŵr a phibelli eraill drwy eu llifolchi’n rheolaidd, defnyddio dŵr neu aer cywasgedig ar gyflymder uchel i glirio merddwr, neu swabio â sbwng (foam swabbing). Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod y system wedi’i chyflunio mewn ffordd sy'n golygu bod modd glanhau’r system yn iawn, dewis a defnyddio'r cyfarpar cywir, glanhau'r prif bibelli dŵr, cael gwared â'r dŵr sy'n cael ei ryddhau a gwneud yn siŵr bod ansawdd y dŵr yn bodloni'r gofynion o ran lefel gwasanaeth.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n glanhau prif bibelli dŵr a phibelli eraill drwy eu llifolchi’n rheolaidd, defnyddio dŵr neu aer cywasgedig ar gyflymder uchel i glirio merddwr, neu swabio â sbwng.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. sicrhau bod asesiad o effaith priodol wedi cael ei gynnal ar weithgareddau glanhau arfaethedig
2. defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i ganfod pa weithgareddau glanhau sydd i’w cyflawni
3. cadarnhau bod y dull glanhau a ddewiswyd yn briodol ar gyfer yr amgylchiadau dan sylw
4. cadarnhau bod cwsmeriaid wedi cael eu hysbysu am weithgareddau glanhau yn unol â gofynion a gweithdrefnau'r sefydliad
5. cadarnhau bod y system wedi’i chyflunio mewn ffordd sy'n galluogi glanhau
6. cofnodi gwybodaeth gywir a pherthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
7. dilyn arferion hylendid a gweithio diogel yn unol â gweithdrefnau perthnasol a gofynion statudol a rheoleiddiol
8. dewis cyfarpar sy'n briodol ar gyfer y dull glanhau a fydd yn cael ei ddefnyddio
9. cadarnhau bod cyfarpar yn y cyflwr gweithredol sy'n ofynnol a’i fod wedi’i osod yn gywir, yn unol â manyleb y gwneuthurwr a gofynion sefydliadol
10. dilyn gweithdrefnau glanhau yn unol â gofynion y sefydliad
11. cael gwared â'r dŵr sy'n cael ei ryddhau mewn modd diogel sy'n effeithio cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd, yn unol â gofynion sefydliadol
12. defnyddio profion priodol i gadarnhau effeithiolrwydd gweithgareddau glanhau ar ansawdd y dŵr
13. datrys problemau sy'n codi yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
14. hysbysu'r bobl berthnasol am fanylion y gweithgaredd glanhau yn unol â gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y rhesymau dros lanhau a'r angen i lanhau prif bibelli dŵr
pam y gallai fod yn amhriodol i lanhau prif bibelli dŵr
gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis dulliau glanhau
- cyfyngiadau glanhau a dulliau glanhau
- cyfrifiadau a gweithdrefnau paratoi y gallai fod angen eu cynnal gan gynnwys cyflymder y llif
- problemau arferol ac anarferol sy'n gallu codi wrth baratoi systemau
- defnyddio cyfarpar yn gywir ac yn ddiogel
- pwrpas glanhau a gweithdrefnau glanhau cywir a diogel
- cael gwared â dŵr mewn ffordd ddiogel
- y difrod sy’n gallu cael ei achosi wrth waredu dŵr yn y ffordd anghywir
- gweithdrefnau profi
- paramedrau ansawdd dŵr
- problemau nodweddiadol a sut mae eu datrys
- pwy i'w hysbysu ar ôl glanhau
- yr wybodaeth am lanhau y mae angen ei darparu
- y cofnodion sy'n ofynnol o ran gweithgareddau glanhau, amseroedd a hyd unrhyw newid yn y llif
- arferion hylendid a diogelwch a gofynion statudol a rheoleiddiol cysylltiedig sy'n berthnasol i weithio ar briffyrdd cyhoeddus, sut mae defnyddio offer a chyfarpar a hylendid personol