Ymchwilio i dueddiadau a datblygiadau yn y dŵr a rhannu gwybodaeth amdanynt
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag ymchwilio i dueddiadau a datblygiadau yn y diwydiant dŵr a rhannu gwybodaeth amdanynt, gan gynnwys y gwahanol dechnegau y gellir eu defnyddio yn y diwydiant. Bydd angen ichi ystyried elfennau ymarferol a goblygiadau datblygiadau a sut y gallai'r rhain effeithio er eich gwaith chi a gwaith pobl eraill.
Mae’n cynnwys adolygu gwybodaeth yn rheolaidd, sefydlu a chadw cysylltiad â'r rheini a allai roi gwybodaeth ddefnyddiol a pherthnasol, sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf gennych chi am dueddiadau a datblygiadau a rhannu gwybodaeth â phobl eraill.
Mae'r Safon hon ar gyfer arbenigwyr technegol, goruchwylwyr neu reolwyr sy'n gweithio ar y rhwydwaith dosbarthu dŵr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. adolygu ffynonellau gwybodaeth perthnasol yn rheolaidd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gwahanol fathau o ffynonellau gwybodaeth gan gynnwys deunyddiau darllen sydd wedi'u cyhoeddi, gweithdrefnau a systemau mewnol, cronfeydd data, cyrff proffesiynol a phobl sydd ag arbenigedd cydnabyddedig
2. dulliau ymchwil3. goblygiadau cost ffynonellau rydych chi'n eu defnyddio4. sut mae dod o hyd i gysylltiadau a allai fod yn fuddiol ac ymgysylltu â nhw5. ffyrdd o ddosbarthu gwybodaeth a chyngor i bobl berthnasol6. sut mae dadansoddi pa mor berthnasol yw tueddiadau a datblygiadau i'ch gwaith7. sut mae cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth8. gofynion sefydliadol o ran mathau gwahanol o weithgareddau rhwydwaith9. y gofynion rheoliadol o safbwynt ansawdd dŵr a pharhad y cyflenwad10. beth mae parhad y cyflenwad a materion cysylltiedig â digonolrwydd yn ei olygu 11. defnyddio technegau gwahanol ar gyfer ail bennu parthau, glanhau prif bibelli dŵr, toriad yn y cyflenwad, gwneud cysylltiadau, trwsio, darnau newydd, gosod a chynnal a chadw12. sut mae penderfynu ar fanteision datblygiadau mewn technegau gwahanol o ran cost 13. ffactorau a fyddai'n gwneud technegau’n addas neu’n anaddas ar gyfer sefyllfaoedd gwahanol