Lliniaru ar risgiau mewn ymateb i argyfyngau yn y diwydiant dŵr

URN: EUSWSD6
Sectorau Busnes (Suites): Dosbarthu'r Cyflenwad Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â lliniaru ar risgiau mewn ymateb i argyfyngau.  Mae hyn yn cynnwys canfod argyfyngau posibl, ymateb iddynt fel sy’n ofynnol gan eich swydd ac yn unol â gweithdrefnau argyfyngau, a chyfathrebu â'r bobl briodol ar yr adegau priodol.   Gallai argyfyngau ymwneud â llifogydd neu lygredd, ymysg pethau eraill. 

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un yn y diwydiant dŵr a allai wynebu argyfyngau. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i ganfod argyfyngau a allai beri risg i'r rhwydwaith, i bobl neu i eiddo

  1. trosglwyddo gwybodaeth berthnasol am argyfyngau ar yr adegau priodol yn unol â gweithdrefnau uwchgyfeirio digwyddiadau  
    3. cyfathrebu â phobl briodol am argyfyngau a nodwyd yn y drefn sy'n ofynnol yn ôl gweithdrefnau uwchgyfeirio digwyddiadau
    4. trosglwyddo gwybodaeth am argyfyngau mewn ffordd glir a chryno 
    5. gwneud yr hyn sy'n ofynnol i chi ei wneud mewn ymateb i argyfyngau yn unol â'r gweithdrefnau argyfyngau sy'n berthnasol i'r sefyllfa dan sylw 
    6. rhoi'r newyddion diweddaraf am argyfyngau i'r bobl berthnasol yn ddi-oed 
    7. cofnodi gwybodaeth fanwl a chywir am argyfyngau yn systemau'r sefydliad yn unol â gofynion sefydliadol 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. lle i gael gafael ar weithdrefnau argyfyngau eich sefydliad 

  1. y mathau o argyfyngau sydd wedi'u cynnwys yng ngweithdrefnau argyfyngau eich sefydliad 
    3. sut mae dehongli gweithdrefnau argyfyngau mewn sefyllfaoedd sy'n berthnasol i’ch swydd
    4. eich cyfrifoldebau o dan weithdrefnau argyfyngau 
    5. risgiau y mae argyfyngau yn gallu eu hachosi i gyflenwadau, pobl, eiddo a’r sefydliad 
    6. goblygiadau methu ymateb i argyfyngau o fewn yr amserlenni a bennwyd
    7. sut y byddech chi'n disgwyl cael gwybodaeth am argyfyngau
    8. y broses uwchgyfeirio digwyddiadau a phwy y mae angen i chi roi gwybodaeth iddynt a pha bryd 
    9. technegau cyfathrebu
    10. y rheini y mae angen eu diweddaru am argyfyngau
    11. gofynion cofnodi

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSWSD6

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaeth Cyhoeddus, Gweithredwyr Prosesau, Offer a Pheiriannau, Gweithredwyr Offer a Pheiriannau

Cod SOC

3113, 5330, 8126

Geiriau Allweddol

dŵr, risg, argyfwng