Darparu a chynnal a chadw cyflenwadau dŵr brys
URN: EUSWSD5
Sectorau Busnes (Suites): Dosbarthu'r Cyflenwad Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Rhag 2018
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â darparu cyflenwadau dŵr cymunedol a photeli o ddŵr fel cyflenwadau brys. Mae hyn yn ymwneud â pharatoi, trefnu a monitro cyflenwadau a'r defnydd ohonynt a sicrhau bod ansawdd y dŵr yn cael ei gynnal.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un yn y diwydiant dŵr sy'n darparu ac yn cynnal cyflenwadau dŵr brys.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. pennu'r angen i ddarparu cyflenwad brys yn unol â'r sefyllfa dan sylw a gofynion sefydliadol
- gwneud cyfrifiad cywir o faint o ddŵr y mae angen ei gyflenwi
3. dewis dulliau cyflenwi sy'n briodol i leoliad a maint y cyflenwad arferol4. darparu cyflenwadau brys o fewn yr amserlen a nodwyd5. rhoi gwybod i'r bobl berthnasol beth yw'r trefniadau cyflenwi yn unol â gofynion sefydliadol6. lleoli cyflenwadau brys yn unol â gofynion sefydliadol7. cadarnhau bod cwsmeriaid yn cael gwybodaeth am leoliad ac argaeledd cyflenwadau yn unol â gofynion sefydliadol8. cofnodi gwybodaeth gywir a pherthnasol am gyflenwadau yn unol â gofynion sefydliadol9. dilyn arferion hylendid a gweithio diogel yn unol â gweithdrefnau perthnasol a gofynion statudol a rheoleiddiol10. monitro'r defnydd o ddŵr ac ansawdd y dŵr ar adegau priodol11. cymryd camau priodol pan fyddwch yn canfod problemau gyda chynnal cyflenwadau brys12. cynnal cyflwr a lleoliad arwyddion, goleuadau ac offer gwarchod ar y lefel sy'n ofynnol yn unol â chodau ymarfer perthnasol13. cadarnhau bod y cyfarpar yn cael ei gynnal a’i gadw a’i storio fel sy’n ofynnol ar ôl ei ddefnyddio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. pam ei bod yn bwysig darparu cyflenwadau brys, mewn cysylltiad â chynlluniau wrth gefn
2. gofynion sefydliadol o ran darparu cyflenwadau brys
3. beth i'w ystyried wrth benderfynu faint o ddŵr i'w gyflenwi
4. dulliau gwahanol o gyflenwi a pha mor briodol ydynt ar gyfer sefyllfaoedd gwahanol
5. goblygiadau methu darparu cyflenwadau o fewn yr amserlenni a bennwyd
6. pwy sydd angen gwybod am drefniadau cyflenwi a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hyn
7. y peryglon sy'n gysylltiedig â lleoli cyflenwadau yn y mannau anghywir ar y briffordd
8. y gofynion o ran lleoli cyflenwadau
9. gofynion cofnodi
10. arferion diogelwch a hylendid a gofynion statudol a rheoleiddiol cysylltiedig
11. problemau hylendid posibl sy'n gysylltiedig â chyflenwadau dros dro
12. pam ei bod yn bwysig monitro'r defnydd o ddŵr a’i ansawdd a'r dulliau a ddefnyddir i wneud hyn
13. problemau arferol ac anarferol a'ch cyfrifoldeb chi o ran delio â nhw
14. y rheini y mae angen eu diweddaru ar faterion sy’n ymwneud â chyflenwadau brys
15. y gofynion o ran arwyddion, goleuo a gwarchod
16. y gofynion o ran storio a chynnal a chadw cyfarpar
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Rhag 2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSDCO9
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaeth Cyhoeddus, Gweithredwyr Prosesau, Offer a Pheiriannau, Gweithredwyr Offer a Pheiriannau
Cod SOC
3113, 5330, 8126
Geiriau Allweddol
dŵr, cyflenwad, brys, ansawdd, dosbarthu