Ymchwilio i berfformiad system drwy ddefnyddio offer llif a phwysedd
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag ymchwilio i berfformiad system drwy osod medryddion a chofnodwyr (gan gynnwys cofnodwyr data) i fesur llif a phwysedd a chasglu a gwerthuso'r data a gofnodwyd. Gallai hyn fod ar y rhwydwaith dosbarthu neu yn eiddo cwsmeriaid.
Mae’n ymwneud â phenderfynu ar natur a chwmpas ymchwiliad, gan ddefnyddio offer mesur data a chasglu a gwerthuso data.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n ymchwilio i berfformiad system gan ddefnyddio offer llif a phwysedd ar y rhwydwaith dosbarthu dŵr neu yn eiddo cwsmeriaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cael gwybodaeth am berfformiad y system o ffynonellau dibynadwy
- penderfynu ar natur a chwmpas ymchwiliad sydd wedi'i ategu gan yr wybodaeth a gafwyd
3. penderfynu ar ddulliau ymchwilio sy’n briodol ar gyfer natur a chwmpas yr ymchwiliad dan sylw
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. dulliau o fesur perfformiad systemau a diben gwneud hynny
- diben ymchwiliadau a sut mae eu cynnal
3. dibenion cofnodi, a ffyrdd o ddefnyddio data wrth reoli a gweithredu systemau dosbarthu4. dulliau casglu data a thechnegau coladu ar gyfer gwahanol fathau o offer cofnodi5. sut mae defnyddio gwahanol fathau o offer6. beth mae manylebau gwneuthurwyr yn ymdrin â nhw7. beth sy'n cael ei ystyried yn ddiffygion ar offer ac effeithiau offer diffygiol8. ffactorau sy’n gallu effeithio ar gywirdeb offer, a pham ei bod yn bwysig cael canlyniadau cywir9. problemau arferol ac anarferol sy’n codi gydag offer ac wrth ddefnyddio offer a’ch cyfrifoldeb chi dros ddatrys y rhain10. beth sy’n cael ei ystyried yn gyflwr addas ar gyfer offer11. y gofynion o ran storio'r offer12. ffynonellau gwybodaeth a sut mae eu defnyddio13. sut mae dehongli gwybodaeth14. sut mae adnabod canlyniadau annormal, a’r gweithdrefnau cofnodi perthnasol15. beth i'w ystyried wrth ddewis pwynt profi a goblygiadau defnyddio pwyntiau profi amhriodol16. arferion hylendid a diogelwch a gofynion statudol a rheoleiddiol cysylltiedig sy'n berthnasol i ddefnyddio offer, gweithio ar briffyrdd a hylendid personol17. sut mae halogi’n gallu digwydd a'r peryglon sy'n gallu codi yn ei sgil18. y mathau o argymhellion y mae canlyniadau gwahanol yn eu dangos19. yr wybodaeth y mae angen ei darparu20. pwy i'w hysbysu am yr ymchwiliadau a phwy ddylai gael y canlyniadau