Gwneud gwaith cysylltiedig â falfiau ar y rhwydwaith dosbarthu dŵr

URN: EUSWSD3
Sectorau Busnes (Suites): Dosbarthu'r Cyflenwad Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2018

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â defnyddio falfiau i ynysu neu i ail-gomisiynu rhannau o'r rhwydwaith dosbarthu, trosglwyddo dŵr rhwng parthau, gwirio sut mae falfiau’n gweithio neu gynnal rhwydwaith digynnwrf. Gallai hyn fod yng nghyswllt cyflenwad cwsmeriaid neu'r rhwydwaith ac mae’n cynnwys asesu goblygiadau gwneud gwaith falfiau y gofynnwyd amdano, cael mynediad at falfiau a’u rhoi ar waith ac adfer y system i weithio’n normal Mae EUSWSD8 Glanhau prif bibelli dŵr yn ymdrin â llifolchi rheolaidd.

Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ar y rhwydwaith dosbarthu dŵr ac sy’n gwneud gwaith cysylltiedig â falfiau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. canfod pa waith y mae angen ei wneud ar sail y cyfarwyddiadau a gafwyd 

  1. cadarnhau cyfluniad y falfiau yn unol â'r gwaith dan sylw

3. pennu beth yw risgiau posibl y gwaith falfiau dan sylw o safbwynt cyflenwadau cwsmeriaid a chadarnhau na fydd y gwaith yn groes i baramedrau ansawdd y sefydliad 

4. cynllunio'r gwaith fel bod y gwaith falfiau yn effeithio cyn lleied â phosibl ar ansawdd y dŵr, y cyflenwad dŵr ac unrhyw afliwio posibl 
5. cadarnhau bod cwsmeriaid ac adrannau eraill y bydd y gwaith falfiau yn effeithio arnynt wedi cael eu hysbysu yn unol â gofynion sefydliadol 
6. cymryd camau perthnasol pan rydych chi o'r farn y byddai gwaith falfiau yn achosi problemau annerbyniol gydag ansawdd y dŵr, llif a phwysedd, colli cyflenwad neu afliwio  
7. trefnu cyflenwadau eraill pan fo gwaith falfiau yn golygu bod hyn yn angenrheidiol 
8. canfod lleoliad, maint a’r mathau o falfiau a ffitiadau cysylltiedig sydd i'w defnyddio yn unol â gofynion gweithredol
9. penderfynu ar drefn briodol ar gyfer gwneud y gwaith falfiau dan sylw a ffitiadau cysylltiedig gan ystyried y posibilrwydd o halogi, yr effaith ar y cyflenwad dŵr a’i ansawdd, ac amharu gormodol ar y system  
10. cael mynediad at flychau falfiau yn unol â gofynion iechyd a diogelwch a sefydlu i ba gyfeiriad y dylech droi'r falfiau er mwyn eu hagor a’u cau 
11. gweithredu'r falfiau yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
12. dilyn arferion hylendid a gweithio’n ddiogel yn unol â gweithdrefnau a manylebau cyfredol
13. pennu'r drefn a'r amserau sy’n briodol ar gyfer gwaith falfiau a hydrantau er mwyn gwneud y gwaith llifolchi sy'n ofynnol  
14. clirio aer o'r system ar hyd y brif bibell berthnasol 15. cael gwared â’r dŵr sydd wedi cael ei lifolchi mewn ffordd ddiogel sy'n lleihau'r effaith ar yr amgylchedd gymaint â phosibl, yn unol â gofynion rheoliadol a sefydliadol
16. cymryd samplau yn unol â gweithdrefnau samplu'r sefydliad er mwyn cadarnhau bod y cyflenwad wedi cael ei adfer i lefelau gwasanaeth gweithredol
17. glynu wrth y terfyn amser a nodwyd ar gyfer y gwaith falfiau 
18. defnyddio gwiriadau priodol i gadarnhau bod systemau wedi cael eu hadfer i lefelau gweithredu arferol 
19. cofnodi'r newid yn statws y falfiau a diweddaru cofnodion y prif bibelli yn unol â gofynion sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. pwrpas mathau gwahanol o waith falfiau 

  1. sut mae dehongli cofnodion, gan gynnwys mapiau a chynlluniau  
    3. y risgiau y mae gwaith falfiau yn ei beri i gwsmeriaid neu i gyflenwadau rhwydwaith 
    4. lefelau gwasanaeth y sefydliad a'r terfynau ar gyfer y gwaith falfiau 
    5. yr agweddau a’r pethau i'w hystyried wrth gynllunio gwaith falfiau
    6. pam ei bod yn bwysig sicrhau bod y gwaith yn effeithio cyn lleied â phosibl ar y cyflenwad dŵr
    7. gweithdrefnau hysbysu'r adran a'r cwsmer gan gynnwys yng nghyswllt defnyddwyr mawr, gwasanaethau tân, y rheini o fewn neu oddi allan i'r ardal sydd i gael ei hynysu neu'r rheini ag anghenion arbennig
    8. beth fyddai’n cael ei ystyried yn broblem annerbyniol, a sut mae delio â hynny 
    9. trefniadau cyflenwi eraill
    10. mathau o falfiau a ffitiadau cysylltiedig a sut maen nhw’n gweithio gan gynnwys rhai aer, wyneb meddal, wyneb caled, falfiau sy’n agor yr un ffordd â'r cloc neu’n groes i'r cloc a falfiau clirio gwaddodion (washout)/hydrantau tân     
    11. problemau sy'n gallu codi gyda falfiau a ffitiadau cysylltiedig gan gynnwys problemau â falfiau, blychau falfiau, gorchuddion falfiau a ffitiadau rhwydwaith gan gynnwys hydrantau
    12. effeithiau posibl gwaith falfiau ar y cyflenwad dŵr ac ansawdd y dŵr
    13. pethau sy'n achosi halogi
    14. effaith gwaith falfiau ar statws y rhwydwaith
    15. y ffactorau i'w hystyried wrth benderfynu ar y drefn y caiff y gwaith ei wneud
    16. sut mae sicrhau mynediad diogel 
    17. goblygiadau methiant i adnabod i ba gyfeiriad mae troi falfiau 
    18. problemau arferol ac anarferol a gofynion y sefydliad o ran delio â nhw
    19. arferion hylendid a gweithio diogel
    20. sut mae adfer y system i'w lefelau gweithredu arferol
    21. beth mae lefelau gweithredu arferol yn ei gwmpasu 
    22. dulliau clirio, pwrpas gwneud hyn a goblygiadau peidio â gwneud hynny’n gywir 
    23. dulliau datglorineiddio a pha bryd mae defnyddio'r rhain
    24. gweithdrefnau samplu
    25. lefelau gwasanaeth
    26. gofynion gwaredu
    27. y difrod sy’n gallu cael ei achosi wrth waredu dŵr clorin yn y ffordd anghywir
    28. y gofynion rheoliadol o ran amharu ar y cyflenwad dŵr
    29. problemau arferol ac anarferol a gofynion sefydliadol o ran delio â nhw
    30. gweithdrefnau cofnodi 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSDCO3

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaeth Cyhoeddus, Gweithredwyr Prosesau, Offer a Pheiriannau, Gweithredwyr Offer a Pheiriannau

Cod SOC

3113, 5330, 8126

Geiriau Allweddol

falf, dosbarthu, rhwydwaith, ansawdd dŵr, cyflenwad dŵr