Monitro ac adolygu gweithgareddau rhwydwaith
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â monitro cynnydd gweithgareddau rhwydwaith ac adolygu pa mor llwyddiannus oedd gweithgareddau penodol. Gallai gweithgareddau rhwydwaith gynnwys ail bennu parthau, glanhau prif bibelli, gwneud cysylltiadau, trwsio, darnau newydd, gosod neu gynnal a chadw. Mae’n cynnwys datrys problemau uniongyrchol y gellir eu datrys yn rhwydd, a delio â phroblemau unigol neu broblemau lluosog difrifol neu gymhleth.
Bwriadwyd y Safon hon ar gyfer pobl sy’n monitro cynnydd gweithgareddau rhwydwaith dŵr a datrys problemau ac sy’n adolygu pa mor llwyddiannus oedd gweithgareddau penodol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
defnyddio gwybodaeth o ffynonellau perthnasol i fonitro gweithgareddau rhwydwaith a statws rhwydwaith ar adegau perthnasol, yn unol â gofynion sefydliadol
canfod cynnydd gweithgareddau rhwydwaith mewn perthynas â phwyntiau monitro penodedig, canlyniadau ac amserlenni
trosglwyddo gwybodaeth berthnasol am gynnydd gweithgareddau rhwydwaith a statws rhwydwaith i unigolion a sefydliadau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gweithgareddau rhwydwaith y gallech chi fod yn eu monitro, gan gynnwys ail bennu parthau, glanhau prif bibelli, gwneud cysylltiadau, trwsio, darnau newydd, gosod a chynnal a chadw