Cyfathrebu â chwsmeriaid yn y sector cyfleustodau
URN: EUSWSD10
Sectorau Busnes (Cyfresi): Dosbarthu'r Cyflenwad Dŵr,Rheoliadau Ffitiadau Dŵr ac Is-ddeddfau Gorfodi,Adeiladu Rhwydwaith Aml-Ddefnyddioldeb
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2018
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â rhoi gwybodaeth neu gyngor i gwsmeriaid, gan gynnwys rhanddeiliaid mewnol neu allanol, ac ymateb i’w hymholiadau neu eu cwynion mewn ffordd gadarnhaol. Mae’n cynnwys cyfathrebu'n effeithiol, delio â chwsmeriaid cydweithredol ac anghydweithredol, cytuno ar gamau i ddatrys unrhyw broblemau a chyfeirio materion sydd y tu allan i'ch maes cyfrifoldeb at y bobl briodol.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un yn y sector cyfleustodau sy'n dod i gysylltiad â chwsmeriaid gan gynnwys rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- trin cwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad bob amser
- rhoi gwybodaeth neu gyngor i gwsmeriaid sy'n gywir, sydd o fewn eich maes cyfrifoldeb ac sy’n unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- ymateb i ymholiadau neu gwynion gan gwsmeriaid yn unol â gofynion y sefydliad o ran cysylltu â chwsmeriaid
- penderfynu ar fanylion cwynion neu ymholiadau gan gwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sicrhau bod unrhyw ymwneud â chwsmeriaid wedi’i amseru i ystyried anghenion cwsmeriaid eraill, pwysau gwaith a gofynion y sefydliad
- gwneud yn siŵr bod unrhyw gamau a gytunwyd â chwsmeriaid yn unol â gofynion a chyfrifoldebau cyfreithiol a sefydliadol
7. esbonio'r cyfyngiadau sydd ar y sefydliad i gwsmeriaid mewn modd clir ac ar adegau priodol sy'n cyd-fynd â gweithdrefnau'r sefydliad - cadarnhau bod cwsmeriaid yn deall unrhyw gamau y mae angen i chi neu hwythau eu cymryd
- defnyddio dulliau priodol wrth ddelio â chwsmeriaid cydweithredol neu anghydweithredol yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- pasio manylion ymlaen i’r bobl berthnasol yn ddi-oed pan fo sefyllfa wedi mynd y tu hwnt i derfynau eich cyfrifoldeb
- cyflawni gweithgareddau a gytunwyd yn unol â chanllawiau gwasanaeth i gwsmeriaid y sefydliad
- cofnodi rhyngweithiadau â chwsmeriaid ar systemau'r sefydliad, gan gynnwys lefel briodol o fanylion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. safonau gwasanaeth i gwsmeriaid a gweithdrefnau cyswllt â chwsmeriaid y sefydliad
- technegau cyfathrebu gan gynnwys sut mae parhau i ymdrin â sefyllfaoedd o wrthdaro a diffyg cydweithrediad mewn ffordd gwrtais, dringar a gwasanaethgar
- rhwymedigaethau a gofynion cyfreithiol y cyfleustodau rydych chi’n gweithio â nhw o fewn cylch gwaith eich rôl
- y mathau o gyngor y gallech chi eu cynnig a'r ymholiadau y byddai disgwyl i chi ddelio â nhw fel arfer
- prosesau'r sefydliad o ran cyswllt â'r cyfryngau
- sut mae ymdopi â disgwyliadau cwsmeriaid a chydbwyso anghenion y cwsmer ac anghenion y sefydliad
- terfynau eich awdurdod eich hun a’r sefydliad o ran delio â chwsmeriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol
- sut mae cyfathrebu â chwsmeriaid, gan gynnwys drwy siarad, gwrando a holi
- technegau i gadarnhau dealltwriaeth pobl eraill o wybodaeth
- pam ei bod yn bwysig deall safbwyntiau cwsmeriaid
- cysylltiad cwsmeriaid â’ch gwaith neu sut mae eich gwaith yn effeithio arnynt
- sut mae delio ag anghytundeb a gwrthdaro
- sut mae cael gafael ar wybodaeth hanfodol a sut mae ei chrynhoi ar gyfer cwsmeriaid
- ffiniau eich awdurdod eich hun a phwy i gyfeirio atynt pan mae ymholiadau a chwynion y tu hwnt i’r awdurdod hwnnw
- gofynion y sefydliad o ran cofnodi rhyngweithiadau â chwsmeriaid
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSDCO2
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaeth Cyhoeddus, Gweithredwyr Prosesau, Offer a Pheiriannau, Gweithredwyr Offer a Pheiriannau
Cod SOC
3113, 5330, 8126
Geiriau Allweddol
cwsmeriaid, cyfathrebu, dŵr, dosbarthu