Cynllunio gweithgareddau rhwydwaith gweithredol

URN: EUSWSD1
Sectorau Busnes (Suites): Dosbarthu'r Cyflenwad Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynllunio sut y caiff gweithgareddau gweithredol eu cyflawni ar y rhwydwaith dosbarthu, gan gynnal ansawdd y dŵr a pharhad y cyflenwad. Mae hyn yn cynnwys trefnu sut mae delio â gweithgareddau heb eu cynllunio sy’n digwydd gydol y dydd. Bydd angen ichi ddewis technegau priodol a allai gynnwys ail bennu parthau, glanhau prif bibelli, gwneud cysylltiadau, trwsio, darnau newydd, gosod neu gynnal a chadw, a blaenoriaethu a chynllunio amserlenni gwaith sy’n ystyried adnoddau a gofynion cyfreithiol.

Mae’r Safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un ym maes dosbarthu’r cyflenwad dŵr sy'n ymgymryd â chynllunio gweithredol ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i benderfynu ar y math o weithgareddau rhwydwaith sydd i’w cyflawni a’u natur
2. canfod goblygiadau a chyfyngiadau rheoliadau cyfredol o ran ansawdd y dŵr a pharhad y cyflenwad ar weithgareddau rhwydwaith 
3. asesu technegau ar sail eu hymarferoldeb a pha mor gost-effeithiol ac addas ydynt ar gyfer ymdrin â gweithgareddau rhwydwaith  
4. canfod y technegau gorau ar gyfer hyrwyddo parhad y cyflenwad a chynnal ansawdd y dŵr  
5. cyfnewid gwybodaeth gyda sefydliadau ac unigolion priodol yn unol â gofynion rheoliadol a sefydliadol
6. penderfynu ar drefn blaenoriaeth yng nghyswllt gweithgareddau gweithredol penodedig sy'n ystyried ffactorau a nodwyd fel rhai dylanwadol ac sy’n hwyluso'r perfformiad gorau posibl 
7. llunio amserlen ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith sy'n ystyried manylion gwaith perthnasol 
8. creu cynlluniau sy'n ddigon hyblyg i gynnwys gweithgareddau gweithredol heb eu cynllunio penodol fel maen nhw'n digwydd  
9. llunio cynlluniau lleihau risg sy'n amlygu amhariadau posibl ac yn eu lleihau yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad 
10. gwirio a newid statws y rhwydwaith er mwyn ystyried gweithgareddau gweithredol sydd wedi cael eu cynllunio
11. ailasesu'r drefn blaenoriaeth yn barhaus mewn ymateb i ddigwyddiadau sy’n newid 
12. cadarnhau gyda’r bobl briodol bod sefydliadau ac unigolion perthnasol wedi cael gwybod am weithgareddau rhwydwaith yn unol â gofynion rheoliadol a sefydliadol 
13. dilyn gweithdrefnau uwchgyfeirio yng nghyswllt unrhyw faterion sydd y tu allan i'ch maes awdurdod chi


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y gofynion sefydliadol o ran mathau gwahanol o weithgareddau rhwydwaith
2. y gofynion rheoliadol o safbwynt ansawdd dŵr a pharhad y cyflenwad 
3. beth mae parhad y cyflenwad a materion cysylltiedig â digonolrwydd yn ei olygu  
4. manteision ac anfanteision y mathau o dechnegau sy'n gallu cael eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith, gan gynnwys ail bennu parthau, glanhau prif bibelli, gwneud cysylltiadau, trwsio, darnau newydd, gosod a chynnal a chadw.  
5. goblygiadau, effaith a lefelau ymateb technegau gwahanol
6. sut mae defnyddio technegau gwahanol a'r manteision cost sy’n gysylltiedig
7. pa mor addas, ymarferol a chost-effeithiol yw technegau ar gyfer gweithgareddau gwahanol o safbwynt cynnal ansawdd y dŵr, parhad y cyflenwad, hwylustod i'r cwsmer a sicrhau’r perfformiad gorau  
8. ffactorau i fod yn ymwybodol ohonynt gan gynnwys ystyriaethau perthnasol i gwsmeriaid, effaith y tywydd ac amodau tymhorol
9. manylion y gwaith, gan gynnwys faint o waith ydyw, lleoliad, amser, hyd, amser cwblhau disgwyliedig ac argaeledd adnoddau
10. cwmpas a manylion amserlenni gwaith
11. y gofynion rheoliadol a sefydliadol o ran cyfathrebu ag unigolion a gweithwyr a manylion y cyfathrebu hwnnw 
12. yr hyn y mae angen i chi ei ystyried er mwyn gallu blaenoriaethu yn effeithiol
13. sut mae canfod ac asesu risg a sicrhau cyn lleied â phosibl o amharu 
14. beth sy'n cael ei ystyried yn lefel dderbyniol o safbwynt hyblygrwydd 
15. sut mae newid statws rhwydwaith a beth ddylai hyn ei gynnwys, pwy sy'n gyfrifol a llinellau hysbysu/adrodd
16. y gofynion sefydliadol a rheoliadol o ran cyfathrebu â chwsmeriaid, cyfleustodau eraill, contractwyr, awdurdodau priffyrdd, gweithredwyr rhwydwaith, cydweithwyr a'r gwasanaethau brys
17. terfynau eich profiad a’ch cyfrifoldeb eich hun a pha bryd y mae’n briodol i gyfeirio at bobl eraill 
18. y llwybrau uwchgyfeirio sy'n berthnasol i'ch maes cyfrifoldeb chi


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Enrergy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSMWS2

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweithredwyr Prosesau, Offer a Pheiriannau, Gweithredwyr Offer a Pheiriannau

Cod SOC

3113,5330,8126

Geiriau Allweddol

Cynllunio gwaith, amserlenni, gweithgareddau gweithredol, trefnu gwaith