Gosod asedau neu gynnyrch peirianyddol ar gyfer adeiladu rhwydweithiau dŵr LEGACY
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â gosod asedau neu gynnyrch peirianyddol ar gyfer adeiladu rhwydweithiau dŵr. Mae hyn yn cynnwys dehongli manylebau technegol, dewis cydrannau a dulliau gosod, cydosod a gosod cydrannau i' safonau disgwyliedig.
Mae'r Safon hon ar gyfer gweithwyr adeiladu rhwydweithiau dŵr sy'n gosod cynhyrchion ac asedau peirianyddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cael yr wybodaeth berthnasol o ddarluniau, cofnodion, dogfennau gwaith, llawlyfrau a manylebau technegol cyfredol
2. canfod dimensiynau, hydoedd, lledau a niferoedd yn unol â'r wybodaeth dechnegol
3. canfod lleoliad peiriannau, gwasanaethau, adeiladau, ymylon palmentydd a ffiniau cyfleustodau yn unol â'r wybodaeth dechnegol
4. dewis cydrannau priodol i'w gosod yn unol â manylebau'r gwaith a manylebau ansawdd
5. canfod a newid cydrannau diffygiol, cydrannau sydd ddim yn cyfateb, a chydrannau o safon annigonol yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
6. sicrhau bod llafur, peiriannau, offer, deunyddiau a deunyddiau traul digonol ar gael i'w gosod
7. delio â gwir newidiadau a newidiadau disgwyliedig i'r defnydd arfaethedig o adnoddau yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
8. sicrhau bod offer gosod yn gweithredu fel sy'n ofynnol
9. penderfynu ar ddulliau gosod i’w defnyddio sy'n briodol i'r gwaith
10. cynnal ac adolygu asesiadau risg sy'n benodol i'r safle yn unol â pholisi'r sefydliad
11. dewis a gwisgo cyfarpar diogelu personol dynodedig
12. sicrhau bod amodau'r cloddiadau yn cydymffurfio â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
13. dewis, paratoi a defnyddio offer gosod yn unol â'r fanyleb a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
14. lleoli cydrannau yn unol â'r manylebau gan gymryd camau digonol i osgoi eu difrodi
15. cydosod cydrannau i safonau'r diwydiant gan ddefnyddio technegau priodol
16. diogelu asedau sydd wedi'u gosod gyda deunyddiau llenwi mân yn unol â manylebau a chodau ymarfer
17. cynnal y pellteroedd agosrwydd oddi wrth gyfarpar cyfleustodau eraill yn unol â chodau ymarfer cymeradwy
18. sicrhau bod asedau sydd wedi'u gosod wedi'u cynnal a'u hangori yn unol â'r codau ymarfer
19. cysylltu i system sy'n bodoli eisoes gan ddefnyddio ti llinellol gwasgu i ddiffodd, ti mynediad o'r ochr neu fynediad o'r brig, yn unol â'r codau ymarfer
20. cadarnhau bod safon y gosodiadau yn cydymffurfio â safonau ansawdd a hylendid
21. dilyn gweithdrefnau'r sefydliad er mwyn sicrhau diogelwch y system a diogelwch pobl eraill bob amser
22. darparu gwybodaeth dechnegol i'r bobl sydd ei hangen yn unol â phrosesau'r sefydliad, a chadarnhau eu bod wedi'i ddeall
23. cwblhau'r dogfennau gwaith gofynnol yn unol â gofynion y sefydliad
24. gweithio ar weithgareddau sydd wedi cael eu dynodi'n rhai 'trwydded waith' yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
25. cyfeirio problemau a chyflyrau y tu hwnt i'ch cyfrifoldeb at y bobl briodol gan ddefnyddio gweithdrefnau cymeradwy
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. pwysigrwydd cynnal asesiadau o risg ar y safle a'r angen am adolygu cyson
2. pwysigrwydd deall dogfen system weithio ddiogel a'i rhoi ar waith
wrth weithio mewn cloddiadau
3. polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer cyrraedd y gofynion statudol, rheoliadau, a chodau ymarfer perthnasol
4. ffactorau sy'n effeithio ar, a ffyrdd o gadarnhau, pa mor addas yw cloddiadau
5. peryglon posib mewn ffosydd a thyllau
6. deddfwriaeth iechyd, diogelwch a'r amgylchedd, gweithdrefnau a chodau ymarfer perthnasol gan gynnwys y rhai sy'n delio â gwaith cloddio, gweithio ar eich pen eich hun, deunyddiau peryglus, damweiniau a chyfarpar diogelu personol, mannau cyfyng, gweithio ar uchder
7. peryglon gwneud pethau sy'n achosi risgiau mannau cyfyng mewn cloddiadau
8. dulliau gosod a phryd y dylen nhw gael eu defnyddio gan gynnwys, prif bibell wedi torri, mewnosod marw, mewnosod byw, dadleoli pridd, drilio i gyfeiriad, trychiad agored
9. goblygiadau defnyddio'r peiriannau, offer, deunyddiau a chydrannau system anghywir
10. camau i'w cymryd pan nad yw peiriannau, offer, deunyddiau a chydrannau system yn cyrraedd y manylebau gofynnol
11. gwallau sy'n gysylltiedig â defnyddio dulliau ac offer gosod amhriodol
12. y dulliau ynysu gwahanol sydd ar gael a'r rhesymau dros eu dewis
13. y broses ar gyfer cael caniatâd i fwrw ymlaen â chysylltiadau a goblygiadau peidio â chael caniatâd
14. pwysigrwydd cael y caniatâd sydd ei angen ar gyfer ynysu unrhyw ran o'r rhwydwaith cyfleustodau
15. y gwahanol gamau i'w cymryd os nad oes modd i'r gwaith ddilyn yr amserlen
16. y ffyrdd o benderfynu ar gamau diogel a phriodol i gywiro'r sefyllfa os nad oes modd i'r gwaith fynd yn ei flaen
17. y dulliau o gael mynediad at wybodaeth sydd ar gael o ddogfennau cyfeiriol, rheoliadau, codau ymarfer
18. polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer cyrraedd y gofynion statudol, rheoliadau, a chodau ymarfer perthnasol
19. y mathau ac arwyddion o ddiffyg sy'n debygol o fod yn bresennol ar is-system a ffyrdd o benderfynu ar gamau cywir a diogel i gywiro'r sefyllfa
20. pwysigrwydd cydymffurfio â safonau cyfredol y diwydiant
21. technegau weldio mecanyddol a weldio ymasiad
22. sut i ddarparu gwybodaeth dechnegol glir a chadarnhau dealltwriaeth
23. dulliau a gweithdrefnau cyfathrebu priodol o ran sut y bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio
24. sut i adnabod problemau sydd y tu hwnt i'ch cyfrifoldebau gan gynnwys anghywirdeb mewn ffynonellau gwybodaeth dechnegol, difrod neu ddiffygion o ran offer neu ddeunyddiau, gwaith sydd heb ei gwblhau ac sydd ddim yn mynd rhagddo yn unol â'r amserlen
25. i bwy y dylech chi gyflwyno gwybodaeth a phryd