Cydosod pibelli a ffitiadau ar gyfer adeiladu rhwydwaith dŵr LEGACY

URN: EUSWNC8L
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydwaith Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2018

Trosolwg

Mae'r Safon yn ymwneud â chydosod  pibelli a ffitiadau ar gyfer adeiladu rhwydwaith dŵr.  Bydd y dulliau a'r technegau cydosod yn cynnwys torri, weldio drwy ymasiad trydanol (electrofusion), drilio a tharo, ac uniadau mecanyddol ar ddeunyddiau metelig neu bolyethylen (PE).
 
Mae hyn yn golygu cynhyrchu cydosodiadau gan ddefnyddio uniadau bollt, sgriw, cywasgu a fflans i safonau a manylebau'r diwydiant yn unol â chyfarwyddiadau'r gwaith.
 
Mae'r Safon hon ar gyfer gweithwyr adeiladu rhwydweithiau dŵr sy'n cydosod pibelli a ffitiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cydosod peipiau a ffitiadau yn unol â rheoliadau a chanllawiau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol.
2. cydosod peipiau a ffitiadau yn unol â chyfarwyddiadau, darluniau cydosod neu unrhyw fanylebau perthnasol eraill
3. sicrhau bod y pibelli a'r ffitiadau a ragnodwyd ar gael ac mewn cyflwr i'w defnyddio
4. defnyddio dulliau a thechnegau priodol i gydosod pibelli a ffitiadau yn eu safleoedd dynodedig
5. defnyddio cysylltwyr a dyfeisiau penodedig i roi ac i gadw pibelli a ffitiadau yn eu lle
6. sicrhau bod y cydosodiad gorffenedig yn cyrraedd gofynion y manylebion
7. delio â phroblemau o fewn eich rheolaeth yn ddi-oed
8. rhoi gwybod i'r bobl berthnasol am broblemau nad ydych chi'n gallu eu datrys


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. deddfwriaeth berthnasol o ran iechyd, diogelwch a'r amgylchedd a gweithdrefnau amgylcheddol, codau ymarfer a gweithdrefnau perthnasol y cwmni gan gynnwys codi a chario a defnyddio offer
2. gwybodaeth berthnasol am y safonau ansawdd a chywirdeb a fynnir o safonau'r diwydiant, cyfarwyddiadau a manylebau gweithgynhyrchwyr, gweithdrefnau'r cwmni, codau ymarfer gwneuthurwyr 
3. sut i ddehongli darluniau a manylebau cysylltiedig  
4. math a chymhlethdod y cydosod sydd i'w wneud gan gynnwys bollt, cywasgu, fflans 
5. dulliau a thechnegau cydosod i'w defnyddio ar fetel a pholyethylen (PE) gan gynnwys torri, weldio drwy ymasiad trydanol (electrofusion), drilio a tharo, ac uniadau mecanyddol 
6. yr angen am weithdrefnau rheoli ansawdd 
7. mathau perthnasol o offer a gweithdrefnau trin offer  
8. technegau paratoi ar gyfer uniadau syml 
9. yr offer sydd ei angen ar gyfer cydosod a phwysigrwydd gofalu amdanynt 
10. beth i'w wneud os oes problem a sut y dylech roi gwybod i rywun ac i bwy


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Etifeddiaeth

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

NCO108W

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Adeiladu Rhwydwaith Dŵr, Peiranneg, Goruchwyliwr Adeiladu Rhwydwaith Dŵr

Cod SOC

5314

Geiriau Allweddol

Adeiladu, Rhwydwaith, Dŵr