Cynnal cysylltiadau prif bibellau dŵr dan wasgedd i rwydweithiau byw

URN: EUSWNC8
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydweithiau Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Mai 2023

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynnal cysylltiadau prif bibellau dŵr dan wasgedd.
Mae hyn yn cynnwys cynnal a phrofi cysylltiadau byw dan wasgedd yn unol â gweithdrefnau cymeradwy i sicrhau bod ansawdd dŵr yn cael ei ddiogelu ac uniondeb rhwydweithiau dŵr.
Mae'r Safon hon ar gyfer gweithwyr adeiladu rhwydweithiau dŵr sy'n gwneud cysylltiadau prif bibellau dŵr dan wasgedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gweithio yn unol â rheoliadau a chanllawiau iechyd, diogelwch, yr amgylchedd, ansawdd dŵr a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill bob amser
  2. dilyn canllawiau’r diwydiant, datganiadau dull a chyfarwyddiadau gweithio ar gyfer cysylltiadau dŵr
  3. gweithio’n unol â safonau ansawdd dŵr a hylendid bob amser
  4. nodi’r bibell gywir o luniadau asedau cyfleustodau a drwy archwilio’r safle gwaith
  5. cynnal cysylltiadau prif bibellau unwaith y ceir caniatâd i’w awdurdodi gan gwmnïau dŵr
  6. dewis a pharatoi cyfarpar a chydrannau yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  7. prawf gwasgedd yn unol â datganiadau dull, cyfarwyddiadau gwaith a gweithdrefnau sefydliadol
  8. gweithredu offer drilio dan wasgedd yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  9. gwirio am ollyngiadau a chysylltiadau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  10. gwneud yn siŵr bod cwponau o ddril yn cael eu cadw wrth ddatgymalu driliau
  11. cael gwared â gormod o aer o systemau yn unol â chanllawiau’r diwydiant
  12. fflysio yn unol â chyfarwyddiadau gwaith ac o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt
  13. sicrhau bod arferion gwaith yn cydymffurfio â gweithdrefnau gweithio diogel bob amser
  14. defnyddio dulliau a gydnabyddir gan y diwydiant i brofi ffitiadau
  15. gofyn i bobl briodol am gyngor ynglŷn ag unrhyw waith nad oes modd ei wneud i safonau penodedig
  16. dilyn gweithdrefnau’r sefydliad pan na ellir cwblhau gwaith yn unol â’r cynllun
  17. rhoi gwybod i gwmnïau dŵr pan fydd cysylltiadau wedi'u cwblhau gan ddefnyddio gweithdrefnau cymeradwy
  18. cwblhau dogfennau cysylltiad yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  19. darparu dogfennau gwaith wedi'u cwblhau yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. deddfwriaeth iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a deddfwriaethau perthnasol eraill, gweithdrefnau sefydliadol a chodau ymarfer
  2. rheoliadau dŵr a gweithdrefnau hylendid sy’n ymwneud â sicrhau cyfanrwydd ac effeithiolrwydd cyflenwadau dŵr, gan gynnwys pwysigrwydd hylendid personol
  3. manylebau Dylunio ac Adeiladu’r cwmni dŵr a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer gweithrediadau dan wasgedd i rwydweithiau byw a phrofi o dan dril gwasgedd a ffitiadau
  4. sut mae dehongli lluniadau, datganiadau dull a chyfarwyddiadau gweithio ar gyfer asedau cyfleustodau
  5. unrhyw ddogfennau prawf sydd eu hangen ymlaen llaw
  6. sut i ddefnyddio lleoliad dodrefn stryd, blychau arwyneb a dangosyddion eraill i nodi lleoliad pibellau
  7. y cyfarpar a’r offer sydd eu hangen ar gyfer cysylltiadau prif bibellau gwasgedd a sut mae eu dewis, eu paratoi, eu defnyddio a’u datgysylltu
  8. rôl, pwysigrwydd a gweithdrefnau ar gyfer profi gwasgedd, fflysio a thynnu aer dros ben o systemau
  9. mathau cymeradwy o weithdrefnau uniadu a chysylltu dan wasgedd
  10. mathau o gyfarpar diogelu personol (PPE) a sut maent yn cael eu defnyddio
  11. signalau, arwyddion a rhwystrau cymeradwy ar gyfer diogelu a gwneud y man gwaith yn ddiogel
  12. gweithdrefnau a llinellau cyfrifoldeb y cwmni ar gyfer egluro cyfarwyddiadau, gofyn am gyngor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd
  13. gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer delio â phroblemau a rhoi gwybod amdanynt
  14. gofynion dogfennau sefydliadol a sut i'w cwblhau a'u storio

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Mai 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

EUSWNC8

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu Rhwydwaith Dŵr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

diogel, prif bibellau, cysylltiadau, dŵr, cyfleustod, cyfleustodau, ar-lein, rhwydwaith, adeiladu, gweithrediadau, hunan-osod, uwch, prif gyflenwad dŵr, rhwydwaith byw, dan wasgedd