Paratoi mannau gweithio a deunyddiau ar gyfer gweithgareddau peirianyddol LEGACY
Trosolwg
Mae'r safon yn ymwneud â pharatoi mannau gweithio a deunyddiau ar gyfer gweithgareddau peirianyddol. Mae hyn yn cynnwys ystyried gwahaniaethau hinsoddol, sicrhau bod y man gweithio yn addas ar gyfer storio pibelli, ffitiadau, deunydd adfer a pheiriannau, cael a pharatoi deunyddiau a sicrhau bod trefniadau diogelwch ar waith.
Mae'r Safon hon ar gyfer gweithwyr adeiladu rhwydweithiau dŵr sy'n paratoi mannau gweithio a deunyddiau ar gyfer gweithgareddau peirianyddol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gweithio o fewn rheoliadau iechyd, diogelwch a'r amgylchedd a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill bob amser
2. sicrhau bod yr amgylchedd gwaith yn addas ar gyfer y gwaith sydd i'w wneud
3. sicrhau bod y man gweithio mewn cyflwr addas ar gyfer storio deunyddiau a chynnyrch gorffenedig
4. sicrhau bod yr holl gyflenwadau gwasanaeth angenrheidiol wedi'u cysylltu ac yn barod i'w defnyddio
5. cael gafael ar y deunyddiau sydd eu hangen yn unol â manyleb y gwaith
6. paratoi deunyddiau ar gyfer gweithgareddau peirianyddol yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
7. sicrhau bod y trefniadau diogelwch sydd eu hangen ar waith er mwyn diogelu gweithwyr eraill rhag gweithgareddau sy'n debygol o amharu ar waith arferol
8. rhoi gwybod i'r bobl briodol pan fo'r paratoadau wedi'u cwblhau
9. delio â phroblemau sydd o fewn eich rheolaeth yn ddi-oed
10. rhoi gwybod i'r bobl briodol am broblemau nad oes modd i chi eu datrys
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. deddfwriaeth iechyd, diogelwch a'r amgylchedd berthnasol, gweithdrefnau a chodau ymarfer gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â sylweddau peryglus, rheoli a dylunio adeiladwaith, offer, codi, a gwaith ffordd a stryd
2. gofynion storio ar gyfer pibelli, ffitiadau, deunydd adfer a pheiriannau mewn amodau tywydd gwahanol
3. gofynion a dulliau paratoi priodol i newidiadau hinsoddol a thywydd garw gan gynnwys llifogydd, a thymheredd eithriadol o boeth ac oer
4. gofynion paratoi ar gyfer cyflenwadau gwasanaeth symudol
5. sut i ddelio â sefyllfaoedd gwaredu gwastraff gan drydydd partïon
6. effaith gwahanol fathau o fannau gwaith ar ofynion paratoi gan gynnwys ardaloedd poblog, ardaloedd anhygyrch, ardaloedd anghysbell, safleoedd rhyngasiantaethol, priffyrdd, tir preifat
7. nodweddion amrywiol deunyddiau pibelli, ffitiadau, a deunyddiau adfer gwahanol
8. pam ei bod yn bwysig bod deunyddiau yn gydnaws â manyleb y swydd
9. dulliau trin a pharatoi deunyddiau ar gyfer pibelli, ffitiadau a deunyddiau adfer
10. pwysigrwydd gofalu am, a chynnal a chadw, offer gan gynnwys mesurau diogelwch ar y safle
11. mathau o ofynion amddiffyn a diogelwch mewn mannau gweithio gan gynnwys sgriniau, rhybuddion, llochesi, conau, rhwystrau, arwyddion a goleuadau
12. gweithdrefnau a llinellau adrodd gan gynnwys ffurflenni safonol sydd wedi cael eu cymeradwyo gan y diwydiant neu gan y cwmni