Cynnal cysylltiadau prif bibellau dŵr llinellol at rwydweithiau byw
URN: EUSWNC7
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydweithiau Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Mai 2023
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynnal cysylltiadau prif bibellau dŵr llinellol.
Mae hyn yn cynnwys cynnal a phrofi cysylltiadau byw yn unol â gweithdrefnau cymeradwy i sicrhau diogelwch ansawdd dŵr ac uniondeb rhwydweithiau dŵr.
Mae'r Safon hon ar gyfer gweithwyr adeiladu rhwydweithiau dŵr sy'n cynnal cysylltiadau prif bibellau dŵr llinellol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio yn unol â rheoliadau a chanllawiau iechyd, diogelwch, yr amgylchedd, ansawdd dŵr a rheoliadau a chanllawiau perthnasol eraill bob amser
- cael gwybodaeth am waith cysylltu prif bibellau gan bobl berthnasol, gan ofyn am eglurhad pan fo angen
- cynnal cysylltiadau yn unol â chanllawiau perthnasol y diwydiant, datganiadau dull a chyfarwyddiadau gwaith
- cynnal cysylltiadau prif bibellau unwaith y ceir caniatâd i’w awdurdodi gan gwmnïau dŵr
- cynnal cysylltiadau yn unol â safonau ansawdd a hylendid perthnasol bob amser
- cynnal cysylltiadau yn unol â gweithdrefnau gweithio diogel bob amser
- defnyddio dulliau a gydnabyddir gan y diwydiant i brofi ffitiadau
- gofyn i bobl briodol am gyngor ynglŷn ag unrhyw waith nad oes modd ei wneud i safonau penodedig
- dilyn gweithdrefnau’r sefydliad pan na ellir cwblhau gwaith yn unol â’r cynllun
- rhoi gwybod i gwmnïau dŵr pan fydd cysylltiadau wedi'u cwblhau gan ddefnyddio gweithdrefnau cymeradwy
- cwblhau dogfennau'r cysylltiad â'r wybodaeth gywir a'i storio yn y man penodedig
- darparu dogfennau gwaith wedi'i gwblhau i'r bobl briodol pan fo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a deddfwriaethau perthnasol eraill, gweithdrefnau sefydliadol a chodau ymarfer
- rheoliadau dŵr a gweithdrefnau hylendid sy’n ymwneud â sicrhau cyfanrwydd ac effeithiolrwydd cyflenwadau dŵr, gan gynnwys pwysigrwydd hylendid personol
- manylebau Dylunio ac Adeiladu’r cwmni dŵr a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer cysylltu â rhwydweithiau byw a phrofi cysylltiadau
- y cyfarpar a’r offer sydd eu hangen ar gyfer cysylltiadau prif bibellau a sut i’w defnyddio
- unrhyw ddogfennau prawf sydd eu hangen ymlaen llaw
- mathau cymeradwy o weithdrefnau cysylltu ac uniadu
- mathau o gyfarpar diogelu personol (PPE) a sut maent yn cael eu defnyddio
- signalau ac arwyddion cymeradwy ar gyfer diogelu a gwneud yr ardal waith yn ddiogel
- gweithdrefnau a llinellau cyfrifoldeb y cwmni ar gyfer egluro cyfarwyddiadau, gofyn am gyngor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd
- gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer delio â phroblemau a rhoi gwybod amdanynt
- gofynion dogfennu a sut i’w llenwi a’u storio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
2
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Mai 2028
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
EUSWNC7
Galwedigaethau Perthnasol
Adeiladu Rhwydwaith Dŵr
Cod SOC
Geiriau Allweddol
diogel, prif bibellau, cysylltiadau, dŵr, cyfleustod, cyfleustodau, ar-lein, rhwydwaith, adeiladu, gweithrediadau, hunan-osod, prif gyflenwad dŵr, rhwydwaith byw