Paratoi i adfer cloddiadau ac wynebau palmentydd LEGACY
Trosolwg
Mae'r Safon hon i'w wneud â pharatoi i adfer cloddiadau ac wynebau palmentydd.
Mae'n cynnwys dehongli cyfarwyddiadau, dewis offer a deunyddiau, adnabod is-strwythurau, dilyn gweithdrefnau paratoi a rhoi gwybod am waith adfer a diffygion. Gall y deunyddiau gynnwys deunyddiau llenwi mân, deunyddiau ôl-lenwi, is-sylfaeni gronynnog, deunyddiau sylfaen ffordd, deunyddiau sylfaen ffordd fitwminaidd, deunyddiau wynebu, concrid, deunyddiau wynebu modiwlaidd, deunyddiau gosod yn oer, deunyddiau gosod yn boeth ac asffalt sy'n cael ei rowlio'n boeth.
Mae'r Safon hon ar gyfer gweithwyr adeiladu rhwydweithiau sy'n paratoi i adfer cloddiadau ac wynebau palmentydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio cyfarwyddiadau a manylebau gwaith i ganfod lleoliad y cloddiadau a faint o waith adfer sydd ei angen
- canfod y man a'r math o strwythur i'w adfer yn unol â'r codau ymarfer perthnasol
- cyflawni gweithdrefnau paratoi ar gyfer adfer cloddiadau yn unol â'r codau ymarfer perthnasol
- penderfynu ar offer cyflenwi ac is-strwythurau yn unol â'r codau ymarfer perthnasol
- dewis deunyddiau ac offer ar gyfer adfer yn unol â'r codau ymarfer perthnasol
- cadarnhau bod yr offer mewn cyflwr addas i'w defnyddio yn unol â manylebau'r gwneuthurwr a gofynion y gwaith
- rhoi gwybod i'r bobl berthnasol am waith adfer, diffygion mewn cloddiadau, problemau a chyflyrau sydd y tu hwn i'ch rheolaeth yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a gweithredol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gwahanol fathau o strwythurau palmant gan gynnwys adeiladwaith palmant hyblyg, cyfansawdd, anhyblyg a modiwlaidd, ymylon a thir naturiol
gweithdrefnau paratoi gan gynnwys tocio ymylon, tynnu ffurfiannau wynebol, tynnu gweddillion rhydd, trwsio ffurfiannau
- y gofynion is-wyneb ar gyfer pob math o wyneb palmant
- y gwahanol fathau o gloddiadau
- deunyddiau mewn cloddiadau a diffygion posib
- gweithdrefnau paratoi a phryd y maen nhw'n briodol gan gynnwys tynnu gweddillion rhydd, trwsio ffurfiannau
- gwaith adfer i'w wneud pan fo ddiffygion
- pwysigrwydd cydymffurfio â chyfarwyddiadau gweithredu a diogelwch yr arweinydd tîm
- y mathau o gyfarpar cyflenwi ac is-strwythurau y gellir dod ar eu traws ar gyfer gwasanaethau cyfleustodau ac asiantaethau eraill
- dulliau o ddiogelu'r cyfarpar cyflenwi ac is-strwythurau gan gynnwys cyfarpar, gwasanaethau uwch ben y ddaear, strwythurau adeiledig, yr amgylchedd naturiol fel sylfeini, gwreiddiau coed, cyrsiau dŵr naturiol
- dulliau o gadw gwahanol ddeunyddiau ar wahân gan gynnwys deunyddiau newydd a deunyddiau y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer llenwi mân, ôl-lenwi, is-sylfaen, sylfeini ffordd, ac wynebu palmentydd
- dulliau o gadarnhau cyflwr y deunyddiau sydd i gael eu hailddefnyddio
- prif nodweddion deunyddiau adfer wyneb, is-wyneb a chyffredinol gan gynnwys deunyddiau llenwi mân, deunyddiau ôl-lenwi, is-sylfeini gronynnog, deunyddiau sylfaen ffordd, deunyddiau sylfaen ffordd fitwminaidd, deunyddiau wynebu, concrid, deunyddiau wynebu modiwlaidd, deunyddiau gosod yn oer, deunyddiau gosod yn boeth, asffalt sy'n cael ei rowlio'n boeth.
- dulliau storio neu warchod deunyddiau sydd wedi cael eu cloddio er mwyn rhwystro dirywiad
- yr offer sy'n cael eu defnyddio ar gyfer gwaith adfer gan gynnwys offer llaw ac offer pŵeredig, ac offer â moduron
- prif weithdrefnau ac arferion y diwydiant ar gyfer adfer cloddiadau, gan gynnwys rhai amgylcheddol, sefydliadol, rheoleiddiol, argyfyngol, gweithredol, cydymffurfiad Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd a gweithdrefnau perthnasol y cwmni o fewn cylch gwaith eich cyfrifoldeb
- rolau a chyfrifoldebau unigolion o fewn y tîm gweithrediadau priffyrdd gan gynnwys strwythurau rheoli safle
- gweithdrefnau ar gyfer cofnodi ac adrodd am gynnydd tasgau, problemau, gwyriadau o'r rhaglen waith
- gweithdrefnau diogel ar gyfer delio ag offer adfer
- gweithdrefnau cofnodi ac adrodd am ddamweiniau
- yr amrywiaeth a'r defnydd o gyfarpar diogelu personol mewn gwaith adfer