Gweithredu arwyddion, goleuadau a gwarchodaeth ar gyfer gwaith priffyrdd LEGACY

URN: EUSWNC5L
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu Rhwydwaith Dŵr
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2018

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â gosod, gweithredu a thynnu  arwyddion, goleuadau ac offer gwarchod ar gyfer gwaith priffyrdd.
 
Mae'n cynnwys gosod, codi a datgymalu offer gwarchod, lleoli, cynnal a chadw, symud a datgymalu offer rheoli traffig a rheoli offer traffig.
 
Gallai'r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n gosod ac yn gweithredu arwyddion, goleuadau a gwarchodaeth ar gyfer gwaith priffyrdd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. defnyddio cyfarwyddiadau a manylebau gwaith perthnasol i benderfynu ar yr arwyddion, goleuadau a gwarchodaeth sydd eu hangen er mwyn cwrdd â gofynion diogelwch a gwarchodaeth
2. gosod a chodi offer diogelwch yn unol â'r codau ymarfer perthnasol
3. cadarnhau bod cyflwr a lleoliad yr offer diogelwch yn cyrraedd y gofynion gwaith a'i fod yn cyd-fynd â'r codau ymarfer perthnasol
4. lleoli, cynnal a chadw a rheoli offer rheoli traffig yn unol â'r gofynion gwaith, a chodau ymarfer perthnasol
5. addasu offer rheoli traffig yn unol â chynnydd y gwaith a newidiadau yn y gweithgareddau
6. hysbysu'r bobl berthnasol am offer diffygiol a difrodedig
7. adnabod unrhyw broblemau sy'n cael eu hachosi gan yr amgylchedd gwaith gydag arwyddion, goleuadau ac arferion gwarchodaeth yn unol â'r codau ymarfer perthnasol
8. tynnu offer diogelu ac offer rheoli traffig yn unol â'r codau ymarfer perthnasol
9. cyfeirio problemau a chyflyrau y tu hwnt i'ch cyfrifoldeb yn unol â'r gweithdrefnau ac arferion cymeradwy
10. gwneud gwaith yn unol â gweithdrefnau, codau ymarfer a gofynion statudol cymeradwy


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. arwyddion, goleuadau a gwarchodaeth addas ar gyfer lled y ffordd, cyflymder y ffordd, cyfrifiadau traffig, celfi stryd a hyd y gwaith
2. addasrwydd arwyddion, goleuadau a dulliau gwarchodaeth o ran cwrdd â gofynion y cod ymarfer
3. pwrpas yr offer sy'n cael ei ddefnyddio i ddiogelu gwaith priffyrdd, gan gynnwys arwyddion, goleuadau, gardiau a signalau traffig symudol
4. y gwahanol fathau o offer rheoli traffig gan gynnwys arwyddion rhybudd, signalau blaenoriaeth, byrddau aros a mynd, goleuadau traffig symudol
5. y gardiau a'r offer rheoli traffig gwahanol sy'n cael eu defnyddio i ddiogelu gwaith priffyrdd a'u gofynion lleoli mewn perthynas â'r gwaith
6. sut i leoli a gweithredu rheoliadau traffig gan gynnwys arwyddion rhybudd, signalau blaenoriaeth, byrddau aros a mynd, goleuadau traffig symudol
7. sut i ddilyn cyfarwyddiadau er mwyn sicrhau bod trefniadau rheoli traffig yn cael eu codi a'u datgymalu yn y drefn gywir
8. pwysigrwydd glanhau arwyddion a goleuadau yn yr ardal waith gyfagos yn ystod gwaith priffyrdd
9. pwysigrwydd gwirio a rhoi gwybod i'r arweinydd tîm am unrhyw ddiffygion mewn arwyddion, gardiau, goleuadau, a systemau rheoli traffig
10. materion amgylcheddol sy'n ymwneud â gwaith sy'n mynd rhagddo gan gynnwys diogelwch y cyhoedd, traffig ysgolion, amodau newidiol fel y gwaith yn mynd yn ei flaen yn y tywyllwch ac ystyriaeth o'r effaith ar lygredd a thraffig gormodol   
11. pwysigrwydd cydymffurfio â chyfarwyddiadau gweithredu a diogelwch
12. amrywiaeth a phwrpas y cyfarpar diogelu personol sy'n cael ei ddefnyddio yn ystod gwaith priffyrdd
13. pwysigrwydd gwirio a rhoi gwybod i'r arweinydd tîm am unrhyw ddiffygion mewn cyfarpar diogelu personol
14. deddfwriaeth, codau ymarfer, gweithdrefnau ac arferion ar gyfer iechyd, diogelwch a'r amgylchedd sy'n berthnasol i'ch gwaith o ran arwyddion, goleuadau a gwarchodaeth
15. beth i'w wneud os bydd damwain neu argyfwng ar y briffordd
16. gweithdrefnau ar gyfer galw’r gwasanaethau brys
17. gweithdrefnau riportio a chofnodi damweiniau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2021

Dilysrwydd

Etifeddiaeth

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Energy & Utility Skills

URN gwreiddiol

NCO109

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Adeiladu Rhwydwaith Dŵr, Peiranneg, Goruchwyliwr Adeiladu Rhwydwaith Dŵr

Cod SOC

5314

Geiriau Allweddol

Adeiladu, Rhwydwaith, Dŵr