Monitro diogelwch staff y safle, y cyhoedd a cherbydau LEGACY
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â monitro diogelwch y safle i staff y safle, cerbydau'r safle ac aelodau'r cyhoedd – boed nhw'n cerdded neu mewn cerbyd. Gallai safleoedd fod ar briffyrdd cyhoeddus neu ar eiddo preifat. Gallai gweithgarwch y rhwydwaith fod yn arferol neu'n anarferol a gallai gynnwys gwaith symudol.
Mae hyn yn cynnwys cadarnhau'r ddarpariaeth o arwyddion, goleuadau a gwarchodaeth a ddatblygwyd yn sgil arolygon safle, monitro amodau'r safle, monitro'r lleoliad, gosodiad a datgymalu arwyddion, goleuadau ac offer gwarchodaeth, sicrhau bod offer yn gweithio a bod ei leoliad yn cydymffurfio â'r gofynion ynghyd â symud offer er mwyn delio â'r amodau traffig cyfredol.
Mae'r Safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n monitro diogelwch staff safle, y cyhoedd a cherbydau ar gyfer gweithgareddau rhwydwaith cyfleustodau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cadarnhau bod arolygon safle yn cynllunio darpariaeth ar gyfer llwybrau troed, lonydd traffig a phyrth diogelwch yn unol â gofynion lleoliad y safle a gweithdrefnau ac arferion diogelwch cymeradwy
2. cadarnhau na fydd y ddarpariaeth a gynlluniwyd na'r gwir ddarpariaeth o ran llwybrau troed, lonydd traffig a phyrth diogelwch yn achosi aflonyddwch, oedi ac anhwylustod gormodol i draffig a cherddwyr, gan gynnwys y rhai hynny sydd ag anghenion arbennig
3. cadarnhau y bydd y ddarpariaeth a gynlluniwyd a'r gwir ddarpariaeth o ran cerbydau a pheiriannau yn darparu sicrwydd a diogelwch i bobl a cherbydau yn unol â'r gofynion cyfreithiol
4. sicrhau bod arferion gweithio diogel yn cael eu pennu a'u dilyn yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy cyfredol
5. cynnal asesiadau risg ar y safle er mwyn sicrhau bod systemau gweithio diogel ar waith o ran arwyddion, goleuadau a gwarchodaeth a bod darpariaeth yn cael ei gwneud i reoli unrhyw beryglon sy'n dod i'r fei
6. cadarnhau bod amodau ar y safle yn cael eu monitro, yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy
7. sicrhau bod y gwaith gwirio wedi cael ei wneud er mwyn sicrhau bod yr offer, deunyddiau a chynnyrch priodol ar gael a'u bod yn bodloni gofynion y lleoliad ac unrhyw anghenion arbennig
8. monitro'r gwaith o arolygu offer, deunyddiau a chynnyrch cyn eu defnyddio yn unol â gweithdrefnau ac arferion cymeradwy
9. sicrhau bod y cyfarpar diogelu personol priodol yn cael ei ddewis, bod ei addasrwydd yn cael ei gadarnhau a'i fod yn cael ei ddefnyddio gan staff y safle yn unol â'r gofynion cyfreithiol
10. sicrhau bod offer, deunyddiau a chynnyrch yn cael eu lleoli a'u tynnu yn y drefn a nodir yn unol â gofynion lleoliad y safle
11. sicrhau bod signalau'n cael eu harolygu a'u profi ar gyfer eu gweithdrefnau a gweithrediad eu hoffer, deunyddiau a chynnyrch ar adegau priodol
12. sicrhau bod rheolyddion signalau yn cael eu newid i gynorthwyo'r amodau traffig cyfredol
13. adnabod problemau gyda'r ddarpariaeth a gynlluniwyd a'r gwir ddarpariaeth a chymryd camau priodol i gywiro'r sefyllfa yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion codau ymarfer ar gyfer arolygu safleoedd gwaith
2. rheoliadau a gweithdrefnau, arferion a gofynion y sefydliad o ran iechyd, diogelwch a'r amgylchedd ar gyfer arolygon safle ac amodau safle gwahanol gan gynnwys y rhai hynny sy'n ymwneud ag asesiadau o risg
3. y mathau o beryglon a risgiau y gellid dod ar eu traws a sut i ddelio â nhw
4. offer diogelu'r amgylchedd, iechyd a diogelwch
5. ffyrdd diogel o ddefnyddio'r deunyddiau peryglus a'r deunyddiau nad ydynt yn beryglus sy'n gysylltiedig
6. polisïau'r sefydliad a pholisïau cleientiaid mewn perthynas ag offer, deunyddiau a gweithdrefnau cymeradwy
7. cynnwys cynlluniau wrth gefn, gweithredol ac argyfwng
8. materion i’w hystyried wrth leoli llwybrau troed, lonydd traffig a phyrth diogelwch gan gynnwys:
• pa mor agos ydyn nhw at ysgolion ac ysbytai
• defnyddwyr y llwybr (gan gynnwys y rhai hynny sydd ag anghenion arbennig)
• amodau'r tywydd (gan gynnwys ffyrdd rhewllyd, glaw trwm, eira, niwl)
• lefel a chyflymder traffig a thystiolaeth o dagfeydd
• goleuadau ar briffyrdd
• sefyllfa'r briffordd (gan gynnwys lled lonydd, mynediad preifat aros fannau bysiau, lleoedd parcio, cylchfannau, cyffyrdd, croesfannau rheilffyrdd , tramffyrdd, lonydd beic)
• mynediad i'r gwasanaethau brys
9. gofynion gwahanol o ran gweithio yn ystod y dydd ac yn ystod y nos
10. y gofynion a'r elfennau cyfansoddol o ran pyrth diogelwch
11. y ffactorau sy'n rheoli'r ddarpariaeth o lwybrau troed, lonydd traffig a pharthau diogelwch a'r amgylchiadau ble mae angen cysylltu â'r awdurdod priffyrdd
12. sut i sicrhau nad oes gormod o darfu ar draffig a cherddwyr
13. dulliau o sicrhau darpariaeth ddiogelwch ddigonol ar gyfer cerddwyr, cerbydau a pheiriannau o fewn ffiniau'r ardal waith gan gynnwys mesurau rheoli traffig
14. gofynion y rhai hynny sydd ag anghenion arbennig a sut i ddarparu ar eu cyfer
15. arferion gweithio diogel ar gyfer arwyddion, goleuadau a gweithgareddau gwarchodaeth
16. diben asesiad risg ar y safle
17. y cyfarpar diogelu personol a'r offer diogelwch priodol i'w defnyddio yn ystod gweithrediadau ar safleoedd, a sut i sicrhau ei fod yn addas i'r diben
18. yr offer diogelwch i'w ddefnyddio er mwyn bodloni'r gofynion, unrhyw anghenion arbennig a sut i sicrhau ei fod yn addas i'r diben
19. y drefn benodedig ar gyfer lleoli, datgymalu a thynnu offer
20. sut i addasu rheolyddion signalau
21. y gweithdrefnau ar gyfer arolygu a phrofi signalau er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio'n iawn
22. problemau sy'n codi o ran diogelu cerddwyr, traffig a staff y safle, a'r camau priodol i'w cymryd i gywiro'r sefyllfa